Showing 811 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Gwenith Gwyn, Welsh
Print preview View:

'Bona'. 15.iv.1925.

A welsoch chwi Bona,. Fy nghi bychan dwnn,. A'i dwy glust fain bica. A'i dau lygad crwnn?. Gall sefyll ar ddeudroed,. A gwenu mor ffel;. Nid oes gi yn unman. Mor gall ac mor ddel.

'Borau Oes Ceiriog' (13 tud.), yn cynnwys, er enghraifft, hanes dylanwad Moses Hwmffra, gwas ym Mhen y Bryn, arno (yr ....

'Borau Oes Ceiriog' (13 tud.), yn cynnwys, er enghraifft, hanes dylanwad Moses Hwmffra, gwas ym Mhen y Bryn, arno (yr oedd yn rhigymwr ac yn ddarllenwr) a dylanwad ei fam, Phoebe Hughes (Evans, gynt). 'O ochor ei dad disgynnai o deulu tywysogol Powys: o ochor ei fam disgynnai o deulu hynod am eu talent i rigymu a'u gwybodaeth lysieuol ... Ar ol dychwelyd o Loeger a chyn priodi ymdaflodd Phoebe Evans i ysbryd rhan uchaf Dyffryn Ceiriog yn nechra y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyrchai i eglwys plwyf Llanarmon Dyffryn Ceiriog ... Yna ar ol cinio elai at Hafod Adams fferm hynafol ar lan y Galedwyn i ddawnsio a chwara gyda ienctid y cylch. Byddai yno grwth neu delyn bob prynhawn Sul trwy yr haf. Yr oedd hefyd yn ffyddlon i'r Twmpathau Chwara, a cherddai filltiroedd i weld action anterliwdiau. Cofiai dorraeth o hen rigymau a chwedlau ...'.

'Bywyd Cymdeithasol y tri phlwyf yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg'. Ar yr wyneb ddalen ceir y pennawd ....

'Bywyd Cymdeithasol y tri phlwyf yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg'. Ar yr wyneb ddalen ceir y pennawd: 'Bywyd Cymdeithasol Cyrrion y Wyddfa'. Cyfrol (tt. 1-47) ac 11 tudalen rydd. Ar ddechrau'r gyfrol ceir toriad o Seren Cymru, 22 Mai 1922, yn cynnwys llythyr maith oddi wrth Gwenith Gwyn: 'Yr Undeb a Chyngor Eglwysi Efengylaidd'.

Canu Gwerin.

Oni nodir yn wahanol, y mae'r eitemau a ganlyn (100-105a) yn llawysgrifen Gwenith Gwyn, ond yr awduron yn anhysbys.

'Cariad Cyntaf Megan a'i Thri Breuddwyd. Chwedl Fuddugol Eisteddfod Genhedlaethol Merthyr 1901.' Tri draft, mewn llawysgrifen (amryw o'r tudalennau'n ddi-gyswllt) ....

'Cariad Cyntaf Megan a'i Thri Breuddwyd. Chwedl Fuddugol Eisteddfod Genhedlaethol Merthyr 1901.' Tri draft, mewn llawysgrifen (amryw o'r tudalennau'n ddi-gyswllt) a dwy dudalen deipiedig, yn cynnwys agoriad y chwedl. Y pennawd ar un o'r tudalennau hyn yw: 'Megan Shon. Byr Chwedl o Fywyd ym Morgannwg.'.

Results 61 to 80 of 811