Showing 811 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Gwenith Gwyn, Welsh
Print preview View:

'Clasur y Dorth a'r Cwpan. 1 Cor., xi, 23-34.'.

500-1 'Ystyriaethau ar Ran o Glasur y Cymundeb. 1 Cor., xi, 23-32. Paratoedig ar gyfer Cwrdd Gweinidogion y Rhondda, 24.2.32.' Dau gopi teipiedig (14 tud.). 502 Nodiadau (3 tud.). 503 'Detailed English Synopsis of Clasur y Dorth a'r Cwpan.' (5 tud.). 504-7 Drafftiau. Anghyflawn. 508 'Clasur y Dorth a'r Cwpan. Rhagarweiniad ac Esboniad.' Dwy gyfrol. 509 Cyfrol (125 tud.), yn cynnwys. A Y gyfres ysgrifau 'Clasur y Dorth a'r Cwpan' wedi'u torri o Seren Cymru, 16 Medi 1932 - 5 Mai 1933. B Pum llythyr yn canmol yr ysgrifau. C Pedwar emyn 'o Lyfr Emynau y Mormoniaid Cymreig yn dal perthynas â'r Ordinhad o Swper yr Arglwydd'. Ar derfyn y gyfres ysgrifennodd Gwenith Gwyn y geiriau a ganlyn:. 'Heddiw, dydd Iau, Mai 4/1933, dyma'r ysgrif ola ar Glasur y Dorth a'r Cwpan wedi ymddangos yn Seren Cymru. Diolchgar iawn wyf am yr iechyd a gefais, a'r nerth ysbryd a gyfranwyd i mi, i ufuddhau i orfod mewnol na fynnai ei omedd. Hyderu yr wyf y bydd i'r ysgrifau gyffroi rhyw nifer, beth bynnag, i iawnfarnu Corff yr Arglwydd'.

Copi carbon o gylchlythyr, yn llawysgrifen Gwenith Gwyn, i'w anfon at eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghymru: 'Y mae'n hyspys i chwi ....

Copi carbon o gylchlythyr, yn llawysgrifen Gwenith Gwyn, i'w anfon at eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghymru: 'Y mae'n hyspys i chwi yn ddiau fod yr awdurdodau gwladol yn Rwsia, ar sail tystiolaethau ymddangosant i ni, ar hyn o bryd, yn anghywir, wedi dyfod i'r casgliad fod Bedyddwyr y wlad honno yn ffafriol i'r Germaniaid, ac mewn canlyniad cauasant ein holl gapelau ar dorraid y rhyfel ... Er mwyn dangos ewyllys da Bedyddwyr Cymru at y Rwsiaid yn eu dydd blin, penderfynwyd yn unfrydol yng Nghymanfa Hydref yr Undeb, gynhaliwyd yn Heolyfelin, Aberdar, Medi 27-30, 1915, ein bod yn apelio at Fedyddwyr Cymru am rodd o gan gini at Gymdeithas y Groes Goch yn Rwsia ...'.

Copi o lythyr teipiedig (2 dud.) oddi wrth Gwenith Gwyn at y Dr North, 11 Gorffennaf 1928. Cydnabod derbyn llythyr ....

Copi o lythyr teipiedig (2 dud.) oddi wrth Gwenith Gwyn at y Dr North, 11 Gorffennaf 1928. Cydnabod derbyn llythyr, 9 Gorff. 1928, a 'Fossil Monographs'. Anfon 'specimen' gyda 'Mr Hughes', sef llechi a elwir 'Duches Mawr'. Trafod y llechi hyn. Amgau 'a rather strange item of Folklore from Glamorgan' [sef 'Bathing Children in Urine', gw. llsg. 72].

Results 101 to 120 of 811