Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 296 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Anthropos
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gomer Roberts,

Rhuthun. Diolch am lythyr RDR. Wedi cael ei benodi gan Fwrdd y Cyllid Gwladol. Mae'n gweithio yn Uwch Aled ac yn trafod y lleoedd y mae wedi bod yn eu prisio yn unol â Deddf Gyllid 1909-10, sef Llys Rhirid Flaidd, Plas Iolyn, Y Giler, Perthillwydion a Glan-y-gors. Sôn am rai o'r beddau ym mynwent Llangwm.

Gomer Roberts,

Llanelidan. Llongyfarch RDR ar ei benodiad yn olygydd Trysorfa'r Plant. Cafodd adroddiad cyflawn a diddorol o gyfarfod Cymdeithas Awen a Chân gan Vaughan Davies.

Gomer [Roberts],

Rhuthun. Mae'n dymuno blwyddyn newydd dda. Dywed iddo ddarllen cryn dipyn o gynnyrch RDR.

Gomer [Roberts],

Rhuthun. Diolch am lythyr RDR. Mae'n gwella'n raddol. Dymuno blwyddyn newydd dda.

Gomer [Roberts],

Llanelidan. Mae'n dyfynnu rhan o un o awdlau Tafolog. Mae'n atgoffa RDR iddo addo dod i'w weld ym mis Mai. Addo mynd ag ef am dro i ben Moel Fama a Moel Traian. Gwelodd ei anerchiad yng Ngwyl Fai Beulah.

Goronwy [Jones],

Croesoswallt. Nid oedd yn cydweld â rhai o sylwadau 'Gwyliwr' ar 'Gymdeithas yr Iaith Gymraeg'. Mae wedi dadlau ynglyn â'r ynfydrwydd o ddisgwyl i'r Ysgol Sul ddysgu iaith.

Gwynfor [T. O. Jones],

Caernarfon. Llongyfarch RDR ar dderbyn y pensiwn. Mae'r Arholiad Celtaidd yn cael ei gynnal yr wythnos ganlynol. Teipiedig.

H. C[ernyw] W[illiams].

Corwen. Mae'n amgau llyfr gan obeithio y gall RDR dynnu sylw ato yn rhywle. Darllenodd benillion doniol Anthropos i R. Hughes, Tynycefn.

H. C[ernyw] Williams,

Corwen. Diolch i RDR am ei ddatganiad. Gwelodd y Parchedig R. G. Roberts a'i wraig mewn modur.

H. C[ernyw] Williams,

Corwen. Nid oes ganddo farddoniaeth i'w gyfarch a'r gwyliau gerllaw. Mae'n hyderu bod RDR a'i wraig yn iach.

H. Ellis,

Caernarfon. Mae'n llongyfarch RDR. Cerdyn post.

H. Elvet Lewis ['Elfed'],

Llundain. Gofyn cwestiynau i RDR ar ôl darllen ei ysgrif yn Y Geninen ar 'Gwyneddon'. [gweler "Gwyneddon" yn rhifyn Gwyl Ddewi 1905 o'r Geninen, tt. [1]-5]. Mae wrthi'n llunio geiriadur o emynwyr yr iaith Gymraeg.

H. G. Vincent,

Llundain. Hysbysu ar ran y Prif Weinidog bod y Brenin am wobrwyo RDR â Phensiwn Rhestr Sifil o £90 fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth i lenyddiaeth Gymraeg. Ni chyhoeddir hyn hyd fis Gorffennaf. Teipiedig. Saesneg/English.

H. Williams,

Ty'n-y-gongl. Mae'n sôn am berthnasau i Goronwy [Owen] yn byw yn Lerpwl ac ym Môn.

Hughes A'i Fab,

Wrecsam. Mae'n amgau siec am y swm sy'n ddyledus am yr hawlfraint i Y Porth Prydferth ac Ysgrifau Eraill. Saesneg/English.

Canlyniadau 121 i 140 o 296