Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

W. Cadwaladr Davies.

Llundain. Mae'n amgau 2s.6 am gopi o lyfr RDR. Roedd E. O. V. Lloyd, Rhagad, wedi protestio yn erbyn WCD am iddo gynnal cyfarfod ynglyn â'r elusennau, yn ardal Corwen, trwy gyfrwng y Gymraeg.

E[van] Peters,

Ty Newydd. Mae'n gofyn i RDR baratoi i ddarllen pennod a dechrau'r gwasanaeth y Sul canlynol. Mae'n gofyn sut mae'r dosbarth Beiblaidd yn dod yn ei flaen. Saesneg/English.

W. Williams,

Corwen. Llawenhau bod RDR yn rhoi bodlonrwydd i eglwys a thrigolion Tal-y-bont. Cafodd lythyr yn dweud bod Mr Peters yn annog RDR i ddechrau pregethu. Mae disgwyl iddo roi ei achos yn fwy ffurfiol ger eu bron cyn mynegi eu cefnogaeth iddo.

James Oliver Jones,

Wrecsam. Mae'n falch fod RDR am fynd i'r Bala. Os bydd yn llwyddiannus fe fydd yna feddwl mawr ohono fel pregethwr ac ysgolhaig. Saesneg/English.

['Iolo Caernarfon', J. J. Roberts],

Porthmadog. Mae'n tybied mai RDR yw Mr John Brown. Nid yw'n ofni dim na neb ynglyn â'i waith yn beirniadu yn Llanberis. Oherwydd na chafodd hwn ac arall y wobr, poenydir ef â llythyrau dienw. Anghyflawn.

Daniel Rowlands,

Bangor. Bu'n darllen dros [?draethawd] o waith RDR. Onid oes modd gwella arno drwy gynnwys ychydig o ddyfyniadau wedi'u cyfieithu?. Saesneg/English. Cerdyn post.

G. Parry,

Aberystwyth. Mae'n bwriadu cyhoeddi ysgrif RDR "Nodion o Ddydd-lyfr" yn rhifyn Mawrth o'r Drysorfa. [Gweler "Dalenau o Nod-lyfr" yn rhifyn Ebrill 1888 o'r Drysorfa, tt. 142-3]. Hoffai dderbyn cyfraniadau tebyg o dro i dro.

John Jones,

Beddgelert. Datgan ei siomedigaeth na fydd RDR yn gallu dod atynt y Sul dilynol. Siomwyd hwy gan nifer o bregethwyr eraill yn yr wythnosau cyn hynny, gan gynnwys Emrys ap Iwan. Disgwylir i RDR drefnu rhywun yn ei le.

Richard Jones,

Nantlle. Gofyn i RDR weithredu fel beirniad ar ran Undeb Llenyddol Tal-y-sarn, Hyfrydle a Thanrallt, ar 29-30 Mai 1889.

H. Williams,

Ty'n-y-gongl. Mae'n sôn am berthnasau i Goronwy [Owen] yn byw yn Lerpwl ac ym Môn.

Richard Thomas,

Crewe. Mae'n gofyn i RDR ddod i bregethu atynt oherwydd bod nifer o Suliau gweigion ganddynt yn dilyn ymadawiad eu gweinidog, H. R. Davies.

'Eifionydd' [John Thomas, (1848-1922)],

[Caernarfon]. Mae Nathaniel Roberts, cyfreithiwr am anfon hanes y claddu iddo trannoeth. Annog RDR i beidio â chymryd sylw o'r mater - eisiau sylw sydd arnynt. Trafod peth ar ei gynnyrch barddonol. Dylai fynd ymlaen â'i bryddest goffa a chadw'r peth yn gyfrinach.

John Thomas,

Llanwrtyd. Dau englyn cyrch yn hysbysu RDR ei fod am ymweld â Chaernarfon. Mae'n mwynhau ei golofn yn Y Faner. Mae'n hyderu ei fod yn iach yng nghanol yr eira. Cerdyn post.

W. Eilir Evans,

Llancarfan. Mae'n anfon siars Esgob Llandaf at RDR i gael ei adolygu. Dyma'r tro cyntaf i Esgob Cymreig gyhoeddi ei siars yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n canmol colofn wythnosol RDR - "y peth goreu ydyw sydd gennym yn yr un cyfeiriad yn y Wasg Gymreig". Bu'n gweithio i'r Western Mail cyn ailgydio yn yr offeiriadaeth oherwydd anhwylder.

[Gomer Roberts],

Llanelidan. Mae'n dweud iddo gael trafferth i ddod o hyd i Y Pentre Gwyn. Diolch i RDR am ei ysgrifennu. Anghyflawn.

Results 1 to 20 of 296