Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

W. A. Williams,

Caernarfon. Mae'n gofyn a yw RDR yn fodlon beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y gystadleuaeth "Traethawd: Bywyd a Gwaith J. W. Thomas (Arfonwyson)". Teipiedig.

L. Owen,

Y Dyffryn, Môn. Mae'n mwynhau ysgrifau RDR yn Yr Herald. Daeth ar draws hen rifyn o'r Herald Cymraeg ac ynddo hanes Anthropos yn derbyn gwobr mewn Cyfarfod Llenyddol ym Mhorthmadog.

Ellis Davies,

Caernarfon. Llongyfarch RDR ar dderbyn gwrogaeth am ei waith llenyddol.

J. Hughes,

Bangor. Llongyfarch RDR ar dderbyn cydnabyddiaeth am ei lafur a'i ffyddlondeb dros oes faith.

John Owen,

Morfa Nefyn. Mae'n falch o weld bod cyfraniad RDR i lenyddiaeth Gymraeg wedi ei gydnabod. Mae'r "Marwol hun" y mae awdurdodau Prifysgol Cymru ynddo yn rhy drwm iddynt ddeffro.

E. Davies,

Bodffari. Llongyfarch RDR ar dderbyn cydnabyddiaeth y wladwriaeth am ei wasanaeth i lenyddiaeth.

Watcyn M. Price,

Wrecsam. Llongyfarch RDR ar dderbyn y Pensiwn Sifil. Mae ei enw yn adnabyddus ymhlith Cymry America ac Affrica. Cerdyn post.

Thomas Williams,

Gwalchmai. Llongyfarch RDR ar derfyn hanner canrif ei weinidogaeth. Safodd holl aelodau Cymdeithasfa'r Gogledd i ddangos parch tuag ato.

D. Francis Roberts,

Bala. Cyflwyno cofion a dymuniadau da brodyr Cymdeithasfa'r Gogledd i RDR ar gyrraedd oedran teg. Teipiedig.

Wyn P. Wheldon,

Llundain. Llongyfarch RDR ar gyrraedd oedran teg ac am y bywiogrwydd rhyfeddol yn Yr Herald bob wythnos.

Tom Jones,

Llanrug. Llongyfarch RDR ar gyrraedd 91. Mae wedi dod o hyd i nodlyfr ac ynddo destunau pregethau yng nghapel Cae Athro. Mae'n rhestru'r pregethwyr ac yn nodi beth oedd testun RDR ar 13 Chwef. 1883.

Results 181 to 200 of 296