Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

T. A. Levi,

Aberystwyth. Diolch am lythyr RDR. Ni wyddai ddim am amgylchiadau anfon llun i Cymru. Ysgrifennai ar gais cyfeillion a oedd yn edmygu Trysorfa'r Plant yn fawr.

D. S. Davies (Baner ac Amserau Cymru),

Dinbych. Pe bai wedi darllen 'y Golofn Lenyddol' ni fyddai'r erthygl flaen wedi ymddangos. Mae'n ymddiheuro am achosi poen i RDR ac yn gobeithio y bydd yn parhau i gyfrannu i'r Faner. Saesneg/English.

Gomer Roberts,

Rhuthun. Diolch am lythyr RDR. Wedi cael ei benodi gan Fwrdd y Cyllid Gwladol. Mae'n gweithio yn Uwch Aled ac yn trafod y lleoedd y mae wedi bod yn eu prisio yn unol â Deddf Gyllid 1909-10, sef Llys Rhirid Flaidd, Plas Iolyn, Y Giler, Perthillwydion a Glan-y-gors. Sôn am rai o'r beddau ym mynwent Llangwm.

Isaac Edwards,

Merthyr Tudful. Datgan ei werthfawrogiad o erthygl RDR yn Y Geninen am fis Ebrill. Ni fydd yn anghofio'r amser difyr a gafodd yn y Clwb Awen a Chân.

S. Maurice Jones,

Lerpwl. Mae wedi ysgrifennu rhyw fân atgofion am ddyddiau maboed ac yn gofyn i RDR edrych dros ei waith ar gyfer Trysorfa'r Plant. Mae'n rhestru digwyddiadau Lerpwl.

Nadolig Jones,

Chubut. Nid oes yr un iaith yn cymharu â'r Gymraeg. Anfonodd ei chwaer Y Drysorfa ato. Mae'n diolch am y cynghorion. Dywed bod ar y Wladfa wir angen Camwy Evans. Diolch am yr addewid i gyhoeddi ysgrif goffa i Shan [Dalar Evans]. [Gweler "O Odre'r Andes", Trysorfa y Plant, cyf. 65 (Tachwedd 1926), tt. 289-90].

Owen M. Griffith,

Poultney, UDA. Gofyn am fersiwn Saesneg o'r ysgrif ar y Parchedig Evan Richardson a ymddangosodd yn Trysorfa'r Plant.

Evan T. Davies,

Llundain. Mae newydd glywed am Bensiwn y Rhestr Sifil. Dylai fod cywilydd ar ddoethion y Brifysgol.

Arglwydd Clwyd,

Ty'r Arglwyddi. Gwelodd hysbyseb yn The Times ac mae'n anfon ei longyfarchiadau.

E. O. Davies,

Bangor. Llongyfarch RDR ar dderbyn cydnabyddiaeth fechan am wasanaeth mawr. Dichon iddo glywed am farw Edward Dafydd Davies yn Affrica.

Picton Davies,

Caerdydd. Gofyn am ysgrifau i'w cyhoeddi yn y Western Mail ynghyd ag ambell bennod o atgofion.

D. C. Owen,

Cricieth. Mae'n hyderu bod RDR wedi cael rhyddhad o'r boen. Mae'r wlad werinol wedi colli ei bregethau ac yn dyheu am ei ysgrifau. Teipiedig.

D. Francis Roberts,

Y Bala. Llongyfarch RDR ar achlysur dathlu Jiwbili ei ordeiniad. Mae ei waith mawr yn cael ei werthfawrogi gan bawb sy'n darllen Cymraeg.

Results 21 to 40 of 296