Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

Papurau Anthropos

  • GB 0210 ANTHROPOS
  • Fonds
  • 1869-1944

Papurau Anthropos, 1869-1944, yn cynnwys gohebiaeth, 1869-1944, a llythyrau o gydymdeimlad at ei weddw, 1944; papurau personol eraill, 1878-1944, yn cynnwys dyddiaduron, llyfrau nodiadau ar bynciau llenyddol a diwinyddol; torion o'r wasg, 1880-1937; papurau llenyddol yn cynnwys cerddi gan Anthropos, 1876-1939, anerchiadau, erthyglau, traethodau a chyfansoddiadau rhyddiaith eraill, 1898-1922; barddoniaeth a rhyddiaith gan awduron eraill (rhai llawysgrifau gwreiddiol), yn enwedig Llew Llwyfo, 1877-1939. = Papers of Anthropos, 1869-1944, including correspondence, 1869-1944, and letters of condolence to his widow, 1944; other personal papers, 1878-1944, including diaries, notebooks on literary and theological matters; newspaper cuttings, 1880-1937; literary papers including poems by Anthropos, 1876-1939, addresses, articles, essays and other prose compositions, 1898-1922; poetry and prose by other writers (some original manuscripts), in particular Llew Llwyfo, 1877-1939.

Anthropos, 1853?-1944.

J. Evans Jones.

[--]. Mae'n anfon tocyn a map ac yn rhoi cyfarwyddiadau iddo ar sut i gyrraedd Llansawel (Briton Ferry) ar y trên. Saesneg/English.

John Jones,

Beddgelert. Mae'n gofyn i RDR ddod atynt i'w gwasanaethu mewn Cyfarfod Llenyddol ac ar y Sul, 2-3 Chwefror 1889.

D. L. Jones,

Llansawel (Briton Ferry). Gofyn i RDR ddod i lenwi Sul gwag sydd ganddynt ym Methel ar 16 Medi. O ystyried y pellter, mae'n cynnig trefnu amryw nosweithiau iddo yn yr wythnos hefyd.

Evan Jones,

Madeira. Disgrifio hyfrydwch yr ynys a'r blodau sy'n tyfu ymhob man. Mae E. Jones, perchennog y gwesty yn ddyn caredig. Mae llongau yn galw am lo a gerddi lle tyfir coffi, siwgr a grawnwin. Mae'n amgau tair deilen o wahanol goed.

James Evans,

Caernarfon. Diolch am ysgrif RDR, 'Nawn gyda Hen Olygydd' a luniwyd amdano ef. Nid yw RDR wedi cyffwrdd dim â'i holl wendidau a'i amherffeithrwydd. [Ymddangosodd yr ysgrif yn Cymru (O. M. Edwards), cyfrol IV (Mehefin 1893), tt. 303-5.].

J. Morgan Edwards,

Llanuwchllyn. Mae'n gofyn am ganiatâd i ddyfynnu o ran o lyfr RDR am hanes Martin Luther ar gyfer llyfr Hanes a Chân y mae'n ei baratoi ar gyfer yr ysgolion canolraddol. Cerdyn post.

Results 61 to 80 of 296