Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

'Ap Llugwy', E. Lloyd Owen,

Cricieth. Mae ar ddeall bod RDR ar y pwyllgor sy'n llunio llyfr emynau newydd. Mae am dynnu ei sylw at Odlau Pumafon o waith ei ddiweddar dad.

John Owen,

Caernarfon. Mynegi ei ddiolchgarwch o dderbyn llythyr RDR. Mae barn RDR o werth mawr iddo. Bydd yn dda ganddo i'r llyfr dalu am ei fwyd tua'r argraffdy.

Gomer [Roberts],

Rhuthun. Mae'n dymuno blwyddyn newydd dda. Dywed iddo ddarllen cryn dipyn o gynnyrch RDR.

John Lloyd (The County Herald),

Treffynnon. Ysgrif RDR, 'Golygwyr a Welais', wedi dod ag atgofion iddo am John Evans Jones. Mae'n cofio'r rhifyn cyntaf o Trysorfa'r Plant. Wrth argraffu'r misolyn cafodd ei law ei malurio.

Samuel Williams,

Pwllheli. Roedd ymweliad Anthropos a Dan Prothero yn y Siop wedi peri iddo fyfyrio. Ni welodd ac ni chlywodd Anthropos erioed ond mae wedi darllen 'Ysgrepan John Brown' yn Yr Amseroedd. Dywed mai RDR ddangosodd i'r ieuenctid sut i ysgrifennu Cymraeg byw ond ni ddarfu iddo gymryd at ei farddoniaeth.

Gomer [Roberts],

Rhuthun. Diolch am lythyr RDR. Mae'n gwella'n raddol. Dymuno blwyddyn newydd dda.

Ellis Davies,

Caernarfon. Mae'n diolch am anerchiad RDR ac yn dymuno blwyddyn newydd dda iddo. Cerdyn post.

W. R. Jones,

Bangor. Anfon cofion Cyfarfod Misol Arfon ato gan fynegi dymuniad i gael ei gwmni yn y Cyfarfod Misol.

W. M. [Jones],

Llansantffraid. Diolch am lith doniol a newydd ar yr hetiau. Gresynu na fuasai RDR wedi gweld het silc Emrys ap Ioan [?Iwan].

D. Cunllo Davies,

Machynlleth. Datgan gwerthfawrogiad o wasanaeth RDR fel golygydd Trysorfa'r Plant ar ran y golygydd presennol. Teipiedig.

E. Morgan Humphreys,

Caernarfon. Diolch am lythyr. Fel yna mae ysgrifennu stori. Gofyn i RDR ofalu am rifyn 4 Ebrill o Y Goleuad.

S. D. Williams,

Bangor. Mae'n falch o glywed i'r llywodraeth anrhydeddu RDR am ei waith dros lenyddiaeth Gymraeg. Dylai'r Brifysgol ei anrhydeddu â gradd.

Richard Evans,

Bangor. Llongyfarch RDR ar gael ei anrhydeddu gan lywodraeth Prydain Fawr. Cerdyn post.

Results 81 to 100 of 296