Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

Hughes A'i Fab,

Wrecsam. Mae'n amgau siec am y swm sy'n ddyledus am yr hawlfraint i Y Porth Prydferth ac Ysgrifau Eraill. Saesneg/English.

Owen [M.] Edwards,

Rhydychen. Mae bron yn sicr iddo dderbyn 'Telyn Bywyd'. Nid yw wedi gallu edrych ar lyfr y tu allan i'w waith na braidd agor llythyr.

O. G. Owen ['Alafon'],

Cwm-y-glo. Mae'n anfon y llawysgrif yn ôl wedi iddo ddarllen pob un o'r dalennau. Byddai'n rhyfedd i lyfr mor feddylgar a defosiynol beidio â chael gwerthiant da. Annog RDR i'w gyhoeddi.

J[ohn] Morris Jones,

Llanfairpwll. Mae'n disgwyl y bydd y rhifynnau nesaf o Y Beirniad yn gryfach ac yn gofyn am erthygl gan RDR. Mae'n cael trafferth â hawlfraint "Ffrwd y Mynydd" o Awel a Heulwen.

Gomer Roberts,

Llanelidan. Llongyfarch RDR ar ei benodiad yn olygydd Trysorfa'r Plant. Cafodd adroddiad cyflawn a diddorol o gyfarfod Cymdeithas Awen a Chân gan Vaughan Davies.

David Jenkins,

Aberystwyth. Mae wedi cael sgwrs â gweithiwr syml ynglyn â golygydd newydd Trysorfa'r Plant. Mae'n dda ganddo bod Alafon wedi'i ddyrchafu i'r fainc olygyddol. Gofyn a fu i RDR weld nodiadau Dj yn Y Cerddor diweddaraf (Mai 1912) ar Eleazar Roberts (1825-1912).

T. Gwynn Jones,

Aberystwyth. Mae wedi ysgrifennu llith i'r Faner ar nofelau. Dywed mai RDR yw'r awdur mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac mae'n awgrymu y dylai gyfieithu ei nofelau i'r Saesneg. Mae'n diolch am yr ysgrif ar y stemar bach a ymddangosodd yn Y Faner.

J. Lloyd Williams,

Dinbych. Mae'n dda ganddo bod RDR yn barod i'w wasanaethu ar y telerau a nodwyd. Mae copi o The North Wales Times wedi'i gyfeirio ato.

'Ap Llugwy', E. Lloyd Owen,

Cricieth. Mae ar ddeall bod RDR ar y pwyllgor sy'n llunio llyfr emynau newydd. Mae am dynnu ei sylw at Odlau Pumafon o waith ei ddiweddar dad.

John Owen,

Caernarfon. Mynegi ei ddiolchgarwch o dderbyn llythyr RDR. Mae barn RDR o werth mawr iddo. Bydd yn dda ganddo i'r llyfr dalu am ei fwyd tua'r argraffdy.

Gomer [Roberts],

Rhuthun. Mae'n dymuno blwyddyn newydd dda. Dywed iddo ddarllen cryn dipyn o gynnyrch RDR.

John Lloyd (The County Herald),

Treffynnon. Ysgrif RDR, 'Golygwyr a Welais', wedi dod ag atgofion iddo am John Evans Jones. Mae'n cofio'r rhifyn cyntaf o Trysorfa'r Plant. Wrth argraffu'r misolyn cafodd ei law ei malurio.

Samuel Williams,

Pwllheli. Roedd ymweliad Anthropos a Dan Prothero yn y Siop wedi peri iddo fyfyrio. Ni welodd ac ni chlywodd Anthropos erioed ond mae wedi darllen 'Ysgrepan John Brown' yn Yr Amseroedd. Dywed mai RDR ddangosodd i'r ieuenctid sut i ysgrifennu Cymraeg byw ond ni ddarfu iddo gymryd at ei farddoniaeth.

Gomer [Roberts],

Rhuthun. Diolch am lythyr RDR. Mae'n gwella'n raddol. Dymuno blwyddyn newydd dda.

Ellis Davies,

Caernarfon. Mae'n diolch am anerchiad RDR ac yn dymuno blwyddyn newydd dda iddo. Cerdyn post.

Results 81 to 100 of 296