Showing 296 results

Archival description
Papurau Anthropos
Print preview View:

Gomer [Roberts],

Llanelidan. Mae'n dyfynnu rhan o un o awdlau Tafolog. Mae'n atgoffa RDR iddo addo dod i'w weld ym mis Mai. Addo mynd ag ef am dro i ben Moel Fama a Moel Traian. Gwelodd ei anerchiad yng Ngwyl Fai Beulah.

O. M. Edwards,

Llanuwchllyn. Gofyn a oes modd cael erthygl ar Goleufryn, neu awgrymu enw rhywun arall. Cerdyn post.

H. Elvet Lewis ['Elfed'],

Llundain. Gofyn cwestiynau i RDR ar ôl darllen ei ysgrif yn Y Geninen ar 'Gwyneddon'. [gweler "Gwyneddon" yn rhifyn Gwyl Ddewi 1905 o'r Geninen, tt. [1]-5]. Mae wrthi'n llunio geiriadur o emynwyr yr iaith Gymraeg.

W. M. Roberts (Hughes A'i Fab),

Wrecsam. Mae O. J. Owen am i RDR ysgrifennu ffug-chwedl cyffelyb i Ty Capel y Cwm i ymddangos yn Yr Ymwelydd Misol yn ystod 1910. Awgrymu llunio nofel a'i chefndir yng nghyfnod Mari Waedlyd. Derbyniodd adolygiad Y Genedl ar Y Pentre Gwyn.

E. James Jones,

Y Rhyl. Llongyfarch RDR ar gael ei ethol [yn olygydd Trysorfa'r Plant]. Mae'n gobeithio y caiff hwyl wrth arlwyo i ddegau o filoedd o blant bach a phlant mawr Cymru.

D. Cunllo Davies,

Machynlleth. Llongyfarch RDR ar gael ei benodi'n olygydd Trysorfa'r Plant a dymuno rhwydd hynt i'r olygyddiaeth. Yr oedd ef yn un o'r ymgeiswyr anfuddugol am y swydd. Cerdyn post.

Richard Morris,

Y Bala. Llongyfarch RDR ar ei benodiad yn olygydd Trysorfa'r Plant. Mae'n amgau darlun. [Darlun yn eisiau].

Goronwy [Jones],

Croesoswallt. Nid oedd yn cydweld â rhai o sylwadau 'Gwyliwr' ar 'Gymdeithas yr Iaith Gymraeg'. Mae wedi dadlau ynglyn â'r ynfydrwydd o ddisgwyl i'r Ysgol Sul ddysgu iaith.

Robert Henry,

Pwllheli. Mae'n cofio mynychu'r ysgol yng Nghorwen gydag RDR. Roedd darllen Y Pentref Gwyn wedi ei lenwi â mwynhad a hiraeth. Adrodd hanes RDR yn beirniadu'r englyn mewn cwrdd llenyddol yng Ngwyddelwern.

Prosser Rhys,

Aberystwyth. Diolch am y geiriau caredig, mae'n ofni nad oes ganddo allu beirniadol. Mae ei fryd ar y nofel ond mae am gystadlu am y Goron gyda'r bryddest Atgof. Pleser iddo yw darllen ysgrifau RDR.

R. Owen Morris,

Aberdyfi. Mae'n anfon darlun o Ysgol Clynnog yn 1876. Dywed mai tri ohonynt sydd yn fyw. [Llun yn eisiau].

Daniel Protheroe,

Chicago. Llythyr RDR wedi deffro atgofion ynddo am ffair y gaeaf. Bu mewn cyngerdd yn ddiweddar lle chwaraeai cerddorfa ddarnau o operau Wagner.

E. O. Davies,

Bangor. Diolch i RDR am ei wasanaeth fel golygydd Trysorfa'r Plant.

John Davies,

Clynnog Fawr. Mae wedi darllen ei erthygl yn Yr Herald ["Y Cyweirnod", Yr Herald (15 Ion. 1934)]. Mae Methusalah Jones yn ddifrifol wael.

Results 161 to 180 of 296