Dangos 296 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Anthropos
Rhagolwg argraffu Gweld:

Wyn P. Wheldon,

Llundain. Llongyfarch RDR ar gyrraedd oedran teg ac am y bywiogrwydd rhyfeddol yn Yr Herald bob wythnos.

Watcyn M. Price,

Wrecsam. Llongyfarch RDR ar dderbyn y Pensiwn Sifil. Mae ei enw yn adnabyddus ymhlith Cymry America ac Affrica. Cerdyn post.

W. Williams,

Corwen. Llawenhau bod RDR yn rhoi bodlonrwydd i eglwys a thrigolion Tal-y-bont. Cafodd lythyr yn dweud bod Mr Peters yn annog RDR i ddechrau pregethu. Mae disgwyl iddo roi ei achos yn fwy ffurfiol ger eu bron cyn mynegi eu cefnogaeth iddo.

W. Williams,

Corwen. Mae'n dda ganddo glywed bod RDR yn iach ac yn cael pleser yn ei astudiaeth. Bydd y Bala yn well i ddysgu Lladin fel y bu Holt yn well i ddysgu Saesneg. Ei wahodd i aros atynt adeg gwyliau'r Pasg.

W. Williams,

Corwen. Maent oll yn llawenhau o glywed iddo basio mor anrhydeddus. Mae'n hyderu y gwnaiff RDR ymdrech i fynd i Lansilin y Sul canlynol.

[W. Williams],

Corwen. Roedd yn falch o ddeall ei fod yn gwneud cynnydd yn ei bynciau. Rhoddwyd caniatâd iddo sefyll yr arholiad derbyn i Goleg y Bala. Anghyflawn. Saesneg/English.

W. Williams,

Corwen. Diolch am lythyr RDR. Mae'n ddrwg ganddo glywed nad yw wedi bod yn dda. Byddai'n falch petai'n dod i Gorwen am ychydig ddyddiau. Mae am atgoffa'r Pwyllgor Ariannol am sefyllfa RDR. Saesneg/English.

W. R. Jones,

Bangor. Anfon cofion Cyfarfod Misol Arfon ato gan fynegi dymuniad i gael ei gwmni yn y Cyfarfod Misol.

W. M. Roberts (Hughes A'i Fab),

Wrecsam. Mae O. J. Owen am i RDR ysgrifennu ffug-chwedl cyffelyb i Ty Capel y Cwm i ymddangos yn Yr Ymwelydd Misol yn ystod 1910. Awgrymu llunio nofel a'i chefndir yng nghyfnod Mari Waedlyd. Derbyniodd adolygiad Y Genedl ar Y Pentre Gwyn.

W. M. [Jones],

Llansantffraid. Diolch am lith doniol a newydd ar yr hetiau. Gresynu na fuasai RDR wedi gweld het silc Emrys ap Ioan [?Iwan].

W. M. [Jones],

Wrecsam. Llongyfarch RDR ar ei ben blwydd yn naw deg. Cerdyn post.

W. M. Jones,

Llansantffraid. Llongyfarch RDR ar ei ddyrchafiad i'r Rhestr Sifil. Cerdyn post.

W. Eilir Evans,

Llancarfan. Mae'n anfon siars Esgob Llandaf at RDR i gael ei adolygu. Dyma'r tro cyntaf i Esgob Cymreig gyhoeddi ei siars yn Gymraeg a Saesneg. Mae'n canmol colofn wythnosol RDR - "y peth goreu ydyw sydd gennym yn yr un cyfeiriad yn y Wasg Gymreig". Bu'n gweithio i'r Western Mail cyn ailgydio yn yr offeiriadaeth oherwydd anhwylder.

Canlyniadau 1 i 20 o 296