Showing 173 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau, [1935]-[1949], a dderbyniodd adeg yr Ail Ryfel Byd yn bennaf, gan gynnwys rhai oddi wrth Ifor Williams (4), Morris Williams, G. J. Williams (2), R. O. F. Wynne, Iorwerth Peate (4), Aneirin [Talfan Davies] (2), T. Jones Pierce, David Thomas (Lleufer) (3), Moelona, T. E. Nicholas (6), Bob Owen, Robert Herring, Dafydd Jenkins (2), Mari [Ellis], R. T. Jenkins, J. E. [Jones], Cynan (2), Cybi, Cassie Davies (2), Gwyndaf, O. Llew [Owain] a chyfeillion yn y fyddin.

Williams, Ifor, Sir, 1881-1965.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 24 Hydref 1938 a 11 Chwefror 1941 mewn llyfr nodiadau.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 30 Rhagfyr 1958 a 29 Awst 1963 mewn llyfr cofnodion. Ceir llythyr oddi wrth T. E. Nicholas, 1962, yn rhydd yn y gyfrol a thorion o'r wasg pan ddyfarnwyd MA iddo yn 1961.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 14 Gorffennaf 1968 a 6 Ionawr 1992 mewn llyfr cofnodion.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1914-1992, gan gynnwys tystysgrif geni Tecwyn Lloyd, 1914, tystysgrifau priodas, 1955 a 1984, tystysgrif marwolaeth Frances Lloyd, 1980, a Tecwyn Lloyd, 1992.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1927-1938, gan gynnwys rhai arholiadau'r Ysgol Sul, am ennill gwobrau llenyddol yn Eisteddfod Myfyrwyr Colegau Bangor, 1937, ac am lwyddo mewn arholiad cwrs ymarfer dysgu, 1938.

Llyfr lloffion,

Llyfr lloffion yn cynnwys teyrngedau a cherddi coffa i Llwyd o’r Bryn, 1962; taflen cyfarfod dadorchuddio tabled goffa iddo yn Ysgol y Sarnau, 1968; torion am foddi Tryweryn, 1964-1965; a thorion eraill.

Papurau Coleg,

Ei draethawd 'Yr elfen bersonol yng Nghanu Taliesin, Llywarch Hen a'r Canu Gwirebol', 1936, ynghyd â phapurau eraill o'i ddyddiau coleg fel bwydlenni Cinio'r Gymdeithas Gymraeg, 1936-1937, wedi'u llofnodi gan y rhai oedd yn bresennol.

'Cymry alltud y Gwrthddiwygiad',

Darlith a draddododd wrth Gymrodorion yr Wyddgrug, Ionawr 1950, ynghyd â manylion, 1951, am amodau'r ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Eidalaidd yn Llundain, adroddiad am ei gyfnod astudio a deunydd mewn Eidaleg gan gynnwys tocynnau darllen Llyfrgell ac Archifau'r Fatican, 1952.

Hanes Cymru,

Nodiadau darlithiau ar gyfer dosbarthiadau yn Sir Gaerfyrddin a Phenfro, [1964]-[1970].

Coleg Harlech,

Papurau gan gynnwys llythyr oddi wrth Percy E. Watkins, 1926, yn ymwneud â sefydlu'r Coleg; llyfr cofnodion y Gymdeithas Gymraeg, 1931-1938; llyfryn Horace Haigh, myfyriwr yn y Coleg, 1936-1937; amserlen, 1947-1948; llyfr nodiadau darlithiau Llên Gymraeg, [1947]-[1948], ynghyd â nodiadau dosbarthiadau diweddarach, 1962-7; prosbectws cyrsiau 1946-1947; Adroddiad Blynyddol, 1949-1950; a Y Bont (Cylchgrawn Coleg Harlech, 1954-1955).

Watkins, Percy E. (Percy Emerson), Sir, 1871-1946.

Cytundebau,

Cytundebau rhyngddo â'r BBC, TWW, Teledu Harlech ac eraill, ynghyd â thri cytundeb cyhoeddi, 1987-1988.

Lady Gwladys a phobl eraill,

Copi llawysgrif o Lady Gwladys a phobl eraill (Abertawe, 1971) a gyflwynodd i'w wraig Gwyneth yn 1982 ac sy'n cynnwys llythyr oddi wrth Islwyn [Ffowc Ellis], 1958.

Elis, Islwyn Ffowc

Cerddi,

Cerddi mewn teipysgrif a llawysgrif gan gynnwys 'Ymson ynghylch y tir' a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Llenor, Hydref-Gaeaf 1946, a 'Dioddefaint' a gyhoeddwyd yn Y Llenor, Hydref-Gaeaf 1945, a llawer o gerddi eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Ieuan Parri (gol.), Cerddi Tec Lloyd (Llanrwst, 2009).
Rhodd Awst 2017
Cerdd yn llaw D. Tecwyn Lloyd yn dwyn y teitl 'Idris Bach, Maerdy', wedi ei hysgrifennu mewn inc du a glas, gyda darluniau bach mewn inc coch; daeth y rhoddwr o hyd i'r gwaith yng nghanol y gyfrol A. Hilka & O. Schumann, Carmina Burana, cyf. 2 (Heidelberg, 1941), fu'n rhan o lyfrgell D. Tecwyn Lloyd yn wreiddiol.

Results 101 to 120 of 173