Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys Cymru'r Plant, Nadolig 1937, yn cynnwys storïau gan NI (117); rhaglen Y Machgen Gwyn i, Cwmni Drama Aelwyd yr Urdd, Neuadd y Brenin, Aberystwyth, 1945, ynghyd â phenillion a gyfansoddwyd yn dilyn y perfformiad (118); taflenni printiedig amrywiol, 1947-90, yn ymwneud â'r Urdd, gan mwyaf, a thaflenni coffa (119); rhaglenni Gwyl Cymru-1958. Pasiant Hanes y Sir. NI a gyflwynodd y syniad o baratoi pasiant o hanes sir Frycheiniog (125); rhaglen Ysgol Haf Breswyl, Coleg Harlech, 1959, yn nodi darlith gan NI 'Ysgrifennu Llyfrau i Blant' (126); Bulletin (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth), Chwefror 1964, yn cynnwys erthygl NI, 'Drama yn yr Ysgol Gynradd' (132); rhaglen Dathlu 21ain Pen Blwydd Ysgol Gymraeg Sant Ffransis Y Barri, 1972, lle y traddodwyd darlith gan NI (133); rhaglen Y Fflam Leilac, Neuadd Dewi Sant, Caerfyrddin, 1977, NI oedd y cynhyrchydd (134); rhaglen Gyl Ysgolion Sul Dosbarth Abergele a Rhuddlan, 1979, 'Myfi, Tydi, Efe' gan NI (135); Barn, Gorffennaf/Awst 1979, yn cynnwys erthygl NI, 'Neuadd Fawr-cyfyng furiau' (136); Barn, Hydref 1981, yn cynnwys adolygiad NI o nofel J. Selwyn Lloyd, Mae torch yn llosgi (Llandysul, 1981) (137); Barn, Chwefror 1983, yn cynnwys teyrnged NI i Carwyn James sef 'Y Ddau Garwyn' (138); poster Gwaed yr Uchelwyr, Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, 1985, ynghyd â thaflen gyhoeddusrwydd 'Cwmni Cofio', NI oedd y cynhyrchydd (139); Y Gwyliedydd, Rhagfyr 1987, yn cynnwys erthygl NI ar 'Y Tri Brenin o Glen' (142); a phoster yn hysbysebu darlith NI 'Y Blas Cynnar', Llyfrgell Maesteg, 1994 (144).