Showing 238 results

Archival description
Papurau Norah Isaac, Welsh
Print preview View:

'Tri Chryfion Byd'

Sgript camera 'Anterliwt Tri Chryfion Byd', 1962, ar gyfer TWW; copi o Norah Isaac (golygydd), Tri Chryfion Byd (Llandysul, 1975) gyda nodiadau wedi'u hychwanegu ganddi'n ddiweddarach ar gyfer anerchiadau am anterliwtiau, ynghyd â dau ffotograff o gast Aelwyd y Barri yn 1953 a Pharti Tri Chryfion Byd yn 1994. Ceir hefyd sgript rhaglen drama ddogfen 'Profi pob peth neu Twm o'r Nant mae Cant yn y'ngalw', [?1975x1976], ynghyd â chopi o Gwaith Thomas Edwards (Twm o'r Nant) (Lerpwl, 1874) gyda'r tudalen deitl a thudalennau eraill yn eisiau ac yn cynnwys llythyr oddi wrth Joseph W. Hughes, 1963, yn cyflwyno'r gyfrol iddi fel gwerthfawrogiad wedi iddo weld perfformiad o'r anterliwtiau yn Llandudno y flwyddyn honno. Mae'r llyfr yn dwyn enw Edward Peate, Glanrhyd, Llanbrynmair, 1874.

Taflen gwasanaeth offeren y meirw Saunders Lewis, 1985, ynghyd â thorion o'r wasg; llungopïau o lythyrau Saunders Lewis ati, 1960-73 ...,

Taflen gwasanaeth offeren y meirw Saunders Lewis, 1985, ynghyd â thorion o'r wasg; llungopïau o lythyrau Saunders Lewis ati, 1960-73; sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis, a berfformiwyd yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, 1985; traethawd ar Saunders Lewis, 1973, gan Elizabeth De George; 'Rhaglen ddramatig o waith Saunders Lewis' gan Norah Isaac, heb ddyddiad; ynghyd â rhannau o Blodeuwedd wedi'u cyfieithu gan Glyn Jones.

Results 21 to 40 of 238