Showing 187 results

Archival description
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau E (Eckley-Ellis)

Llythyrau, 1918-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun R. Edwards (5), D. Miall Edwards (1), Emyr Edwards (1), Huw Lloyd Edwards (1), Huw T. Edwards (10), Ifan ab Owen Edwards (5), Meredydd Edwards (1), Raymond Edwards (5), T. Charles Edwards (2), Islwyn Ffowc Elis (29) a 'Tom' [T. I. Ellis] (5).

Edwards, Alun R. (Alun Roderick), 1919-1986

Llythyrau Jones (E-G)

Llythyrau, [1925]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae E. D. Jones (4), [Elizabeth Mary Jones], 'Moelona' (1), Ellis D. Jones (36), Emyr Ll[ywelyn] Jones (3), Dr Emyr Wyn Jones (1), Francis Jones (12), [Francis] Wynn Jones (4), Gareth Morgan Jones (2), Gerallt Jones (9), Dr Gwenan Jones (32), Gwilym R. Jones (7) a Gwyn Jones (11).

Jones, Ellis D.

Llythyrau ei chwaer

Llythyrau, 1917-1949, oddi wrth D. J. Williams at ei chwaer Pegi (Margaret Ann) Williams. Fe'u dychwelwyd hwy ato gan Emlyn Miles, ei frawd-yng-nghyfraith, wedi marwolaeth Pegi yn 1965. Y mae'r llythyr cyntaf yn torri'r newyddion trist iddi am farwolaeth eu mam yn Rhagfyr 1916. Ceir hefyd ddau lythyr oddi wrth John Hinds, AS, 1917, at y Parch. John Williams, Llansawel, yn ymwneud â'i rhyddhau hi o'i gwaith, cerdd 'Cân o ffarwel' gan y Parch. John E. Williams, 1916, pan adawodd am yr India i weithio fel nyrs, ac ysgrif goffa iddi, [1965].

Hinds, John, 1862-1928

Llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion

Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.

Llythyrau C

Llythyrau, [1936]-1968. Ymhlith y gohebwyr mae Barbara Castle (1), Tegwen Clee (3) a Mary Clement (3).

Castle, Barbara, 1910-

Llythyrau D (Davies, J-N)

Llythyrau, 1920-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth Jennie [Eirian Davies] (2), John Davies (1), y Parch. [J.] Eirian [Davies] (2), J. H. Davies (1), Nan Davies (1), Neli Davies (11) a Dr Noëlle Davies (94).

Davies, Jennie Eirian, 1925-1982

Llythyrau G

Llythyrau, [1925]-1969, gan gynnwys rhai oddi wrth Raymond Garlick (1), Gwilym Lloyd George (1), Megan Lloyd George (1), William George (4), D. R. Grenfell (3), Moses Griffith (3), Stephen Griffith (1), D. R. Griffiths ('Amanwy') (1), James Griffiths (4), J. Gwyn Griffiths (52), Kate B[osse] Griffiths (1), W. J. Gruffydd (9), Eirwen Gwynn (1) a Harri Gwynn (1).

Garlick, Raymond

Llythyrau P

Llythyrau, 1918-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Alun Page (5), Dafydd [David] Hughes Parry (5), Gruffudd Parry (1), Tom Parry (9), Ffransis Payne (3), Iorwerth Peate (29), Llew Phillips (1), 'Dick' [Dr Richard Phillips] (14), y Barnwr Dewi [Watkin] Powell (2) a Caradog [Prichard] (2).

Page, Alun,

Llythyrau oddi wrth Flora Forster

Llythyrau, 1918-1925, 1930, 1937, oddi wrth Flora Macrae Forster at D. J. Williams yn ymwneud yn bennaf â'u perthynas bersonol, gan gynnwys copi o lythyr a ysgrifennwyd gan D. J. Williams yn 1924 o Landernou, Llydaw, a llythyr, 1923, oddi wrth Alice Forster ato.

Forster, Flora

Results 141 to 160 of 187