Llythyrau, 1911-1969, a anfonwyd at D. J. Williams, gan gynnwys ffeiliau unigol ar gyfer cyfeillion agos ato fel Saunders Lewis, Kate Roberts a Lewis Valentine, a ffrindiau oedd yn filwyr adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos Penyberth a llythyrau'n trafod materion gwleidyddol megis ei waith gyda Phlaid Cymru. Mae nifer yn mynegi gwerthfawrogiad o'i waith fel llenor a llawer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd a darlithydd poblogaidd. Yn fynych ceir drafft o ateb D. J. Williams.