Dangos 273 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Ieuan Wyn Jones Ffeil Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Effemera

Cardiau aelodaeth Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a chopi araith gyntaf Gwynfor Evans yn y Senedd ar 26 Gorffennaf 1966.

Eirian Llwyd

Deunydd am Eirian Llwyd yn dilyn ei marwolaeth gan gynwwys copiau o gylchgronnau gyda chofiannau iddi ac erthyglau am y cronfa a sefydlwyd er cof amdani a thaith cerdded Ieuan Wyn Jones ar hyd Clawdd Offa.

Etholiad 2011

Papurau yn ymwneud yn bennaf ag Etholiad Cyffredinol 2010 ac Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 gan gynnwys, llythyron yn diolch i Ieuan Wyn Jones yn dilyn ei gyhoeddiad i sefyll i lawr o'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae ffeiliau ynglyn a cheisiadau swydd Prif Weithredwr Plaid Cymru ar gau ac mewn amlen ar wahan

Etholiad Cyffredinol 1987

Papurau amrywiol yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1987 yn etholaeth Ynys Mon gan gynnwys erthyglau, taflenni a phosteri, dyddiadur apwyntiadau, cerdd gan Ann Vaughan a threfniadau mewnol yr ymgyrch.

Etholiad Ewrop

Anerchiad etholiad, cerdyn galw, gohebiaeth a phapurau ynglyn ag ymgyrch Ieuan Wyn Jones fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Gogledd Cymru yn Etholiad Senedd Ewrop yn 1979.

Gohebiaeth a gwaith mewnol Plaid Cymru

Papurau amrywiol gan gynnwys copi o Hansard 20 Hydref 1996 lle mae cwestiwn ar wledydd yn cael annibynniaeth o Brydain, nodiadau, papur y Ceidwadwyr ar gryfhau'r Deyrnas Unedig, Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a chopi o ariath Nelson Mandela yn y Senedd adeg ei ymweliad a Phrydain.

Canlyniadau 81 i 100 o 273