- PD4/3.
- file
- 1934-1940.
Part of Papurau Pennar Davies,
Tyslythyrau, 1934-1946, oddi wrth y Prifysgolion a fynychodd, ynghyd â llythyrau oddi wrth yr Athro Gwyn Jones yn ymwneud â swydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, 1945-1946.
Part of Papurau Pennar Davies,
Tyslythyrau, 1934-1946, oddi wrth y Prifysgolion a fynychodd, ynghyd â llythyrau oddi wrth yr Athro Gwyn Jones yn ymwneud â swydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, 1945-1946.
Deiseb y Gymraeg yn y Rhondda,
Part of Papurau Pennar Davies,
Papurau, 1924-1926, a gasglwyd gan y Parch. Fred Jones, Tal-y-bont (aelod o'r pwyllgor), yn ymwneud â'r Ddeiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda i Bwyllgor Addysg Rhondda, gan gynnwys torion o'r wasg.
Casgliad o gerddi'r Dr Robert Williams Parry,
Part of Papurau Pennar Davies,
Cyfrol deipysgrif yn cynnwys cerddi a ymddangosodd ar ôl cyhoeddi Yr Haf a cherddi eraill wedi'u casglu gan 'Rhiwafon I'
Parry, Robert Williams
Part of Papurau Pennar Davies,
Llythyr, 1950, oddi wrth Gofrestrfa Prifysgol Rhydychen, yn caniatau iddo newid teitl ei draethawd o 'Christian doctrine and Christian controversy in the Elizabethan Drama' i 'Christian Ethical Thought in the Faerie Oueene of Edmund Spenser', ynghyd â'i nodiadau ymchwil.
Part of Papurau Pennar Davies,
Papurau, 1913, 1942-1985, yn ymwneud â'i weinidogaeth a'i yrfa yn y colegau diwinyddol.
Part of Papurau Pennar Davies,
Pregethau Saesneg, [1943]-[1980], yn bennaf. Ceir 'Pregethau'r Adfent' gan gynnwys ei bregeth 'Yr allwedd i hanes' a ddarlledwyd ar 'Oedfa'r Bore' yn 1980. Mae rhestr o'r pregethau yn yr amlen leiaf.
Llyfr nodiadau (Y Coleg Coffa, Aberhonddu),
Part of Papurau Pennar Davies,
Llyfr nodiadau, 1913, 1952-1960, yn cynnwys manylion am fyfyrwyr y Coleg a chofnodion cyfarfodydd amrywiol.
Part of Papurau Pennar Davies,
Papurau, 1949-1959, gan gynnwys llythyr oddi wrth Alun Oldfield-Davies, 1957, yn ei wahodd i fod yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Crefyddol y BBC yng Nghymru; llythyr oddi wrth Keidrych Rhys, 1957; llythyrau oddi wrth Nath[anie]l Micklem, Pennaeth Coleg Mansfield, Rhydychen; papurau'n ymwneud â'i rôl fel tiwtor i oedolion (Cwrs Llenyddiaeth Gymraeg, Aberhonddu, 1953; emynau o'i waith; enghreifftiau o'i bregethau; holiadur swyddogol Prifysgol Cymru am y Coleg, [1954] ac ychwanegiadau, [1958], ynghyd â llungopïau gan [Densil Morgan] o’i ddyddiadur taith ef a'i wraig Rosemarie i'r cyfandir ('yr ail fis mêl'), 1959 ac o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1951-1959], yn cynnwys rhestri o'r myfyrwyr. -- Ceir hefyd ysgrif, [1975], a luniodd am John Evans, Athro yn y Coleg Coffa, a gyhoeddwyd yn [Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970, (Llundain, 1997)], ac ysgrif goffa a luniodd amdano ar gyfer y Times, 1959.
Davies, Alun Oldfield.
Part of Papurau Pennar Davies,
Llyfr yn cofnodi cyfarfodydd Senedd Colegau Aberhonddu ac Abertawe yn ddiweddarach, 1950-1970.
Part of Papurau Pennar Davies,
Dyddiadur a ddefnyddiwyd i gofnodi gweddïau a myfyrdodau, [1958]-[1959], gan gynnwys gweddïau a draddododd fel Prifathro [Coleg Coffa Aberhonddu] yn 1959 yn rhydd yn y gyfrol.
Part of Papurau Pennar Davies,
Papurau, 1983-1985, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd y Comisiwn ar uno Coleg Bala-Bangor a'r Coleg Coffa.
Part of Papurau Pennar Davies,
Papurau, [1930]-[1999], yn ymwneud â'i gyfraniad fel nofelydd, bardd a sgriptiwr.
Part of Papurau Pennar Davies,
Llungopïau o'r erthyglau 'Dylanwad Cylch Cadwgan adeg y Rhyfel' ac 'Aduniad Cylch Cadwgan', Y Gwrandawr, Mehefin 1969 a Mawrth 1971, 'Gwilym Rees Hughes yn holi Pennar Davies', Barn 1973, a 'Cynnyrch aelodau Cylch Cadwgan a ymddangosodd mewn detholiad o gylchgronau rhwng 1935 ac 1945' gan Nia Mai Williams, Ysgrifau Beirniadol XXV (1999), ynghyd â'i deyrnged i 'Kate Bosse-Griffiths a J. Gwyn Griffiths' [1979].
Part of Papurau Pennar Davies,
Cerddi Cymraeg a Saesneg, [1930]-[1990], gan gynnwys 'Dieithriaid. I Rosemarie', 1944; ei gyfieithiad 'I ble?' o 'Wohin?' gan Schubert ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965; 'Adduned. I Gwynfor Evans'; cyfieithiad i'r Saesneg o'i gerdd 'Creiddylad' gan Richard Jeffrey; ei gyfieithiad o'i gerdd 'Llanddwyn' i'r Saesneg; a cherdd 'I gyfarch Rhydwen', Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990. Ceir cerddi hefyd o'r cyfnod cynnar, [1931]-[1939], rhai mewn llawysgrif.
Part of Papurau Pennar Davies,
Anerchiadau ar bynciau llenyddol a chrefyddol, [c.1941]-1986
Part of Papurau Pennar Davies,
Adolygiadau, [1948]-[1987], o'i weithiau a rhai a luniwyd ganddo ef o lyfrau gan eraill ar ffurf torion a theipysgrifau.
Part of Papurau Pennar Davies,
Dalennau-gweithio'r stori ‘Dwyfoldeb Athrylith’, Caregl Nwyf (Llandybïe,1966).
Part of Papurau Pennar Davies,
Drafftiau teipysgrif y stori fer hir a gyhoeddwyd yn Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes (golygyddion), Storïau '72 (Llandysul, 1972), ynghyd â chopi cyflawn wedi'i gywiro.
Part of Papurau Pennar Davies,
Teipysgrif o'i nofel Gwas y Gwaredwr (Abertawe, 1991), yr olaf yn y gyfres o dair.
Part of Papurau Pennar Davies,
Llythyrau, gan gynnwys rhai oddi wrth Bobi [Jones] (3), S[imon] B. Jones, E. Tegla Davies, Iorwerth C. Peate, T. J. Morgan a Meredydd [Evans]. Mae rhai o'r llythyrau yn ymateb i'w gyfraniad 'Episodes in the History of Brecknockshire Dissent' yn y cyfnodolyn Brycheiniog, 1957.
Jones, Bobi, 1929-2017