Showing 142 results

Archival description
Papurau Pennar Davies,
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau,

Llythyrau, [1945]-[1960], gan gynnwys rhai, 1946, yn ei longyfarch ar ei benodi'n Athro yng Ngholeg Bala-Bangor a llythyrau, 1947, yn ymwneud â'i waith fel golygydd y gyfrol Saunders Lewis ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950) . Ymhlith y llythyrau mae traethawd a luniodd yn 1926 yn ymwneud â Milton, cerdyn aelodaeth o Blaid Genedlaethol Cymru yn 1939 (Cangen Aberpennar) a rhifyn o Tir Newydd, Awst 1939, yn cynwys dwy gerdd ganddo.

Llythyrau,

Llythyrau, 1930-1949. Ymhlith y gohebwyr mae Haniel Long (5), Keidrych Rhys, Aneirin [Talfan Davies] (2), H. F. B. Brett Smith, ynghyd â llythyrau ganddo at ei rieni o'r Unol Daleithiau ac oddi wrth ei fam ato ef.

Long, Haniel, 1888-1956. Interlinear to Cabeza de Vaca.

Llythyrau (Cyfnod Coleg Bala-Bangor),

Llythyrau gan gynnwys rhai oddi wrth Lewis Valentine, Aneirin Talfan Davies, Dom Hubert Dauphin, Euros [Bowen], ynghyd â llythyr oddi wrth Pennar Davies at J. E. Daniel, 1946. Ceir llungopïau [Densil Morgan] o [Blwyddiadur a Llawlyfr yr Annibynwyr, 1946-1950], yn rhestru'r myfyrwyr yn Athrofa Bala-Bangor.

Valentine, Lewis.

Llythyrau,

Llythyrau, [1950]-[1959], yn trafod materion diwinyddol a llenyddol. Ymhlith y gohebwyr mae E. Tegla Davies, Harri Gwynn, [W.] Anthony Davies, Iorwerth C. Peate, Bobi [Jones] (3), Gwenallt, Kate Roberts (3), Dyfnallt a T[homas] Richards.

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967.

Llythyrau,

Llythyrau, 1966-1969. Ymhlith y gohebwyr mae J. E. [Jones], Harri Webb, D. J. [Williams] (3) a John Fitzgerald.

Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970

Llythyrau,

Llythyrau, 1968-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Gwyn Thomas (2). Ceir hefyd gopi o daflen gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd a gwasanaeth Crwys, 1968, pan dalodd Pennar Davies deyrnged iddo.

Thomas, Gwyn, 1936-

Llythyrau,

Llythyrau, 1980-1984. Ymhlith y gohebwyr mae Gwynfor Evans (yn mynegi'i fwriad i ymprydio hyd angau pe bai angen os na fyddai'r Llywodraeth Geidwadol newydd yn newid ei meddwl a sefydlu sianel Gymraeg newydd), Geraint Bowen, [D.] Myrddin [Lloyd] (3) a Gwyneth Lewis. Ceir llythyrau o gefnogaeth adeg achos llys Pennar Davies a charcharu'i fab Hywel Pennar gan gynnwys rhai oddi wrth Mered[ydd] [Evans], Menna Elfyn a Saunders Lewis (2), ynghyd â thaflen y cyfarfod a gynhaliwyd i gydnabod ei wasanaeth yng nghapel Ebeneser Newydd, Abertawe, 1983, a'i anerchiad 'Dydd Blynyddol y Coleg Coffa', 1984.

Lloyd, D. Myrddin (David Myrddin), 1909-1981

Llythyrau Geoffrey Nuttall,

Llythyrau, 1966-1989, oddi wrth ei ffrind y gweinidog a'r hanesydd, o Lundain a Birmingham, yn trafod materion academaidd a'i gyhoeddiadau, ynghyd â throsiad Geoffrey Nuttall o gerdd Pennar Davies 'Moment'. Ceir hefyd ddyfyniadau o'r llythyrau hyn a rhai at Clem Linenberg wedi'u crynhoi gan [Densil Morgan].

Nuttall, Geoffrey F. (Geoffrey Fillingham), 1911-2007.

'Can diolch',

Llyfr nodiadau'n cynnwys 'Hunangofiant (unwaith eto)', ynghyd â llungopïau o adysgrifau o bum pennod o'r gwaith, a gwybodaeth achyddol.

Graddio,

Taflen ei seremoni graddio yn BA gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf mewn Lladin, 1932, ynghyd â rhestri o'r rhai fu'n llwyddiannus yn arholiadau Prifysgol Cymru, 1932-1934.

Papurau amrywiol,

Papurau, [1933]-[1936], yn ymwneud â'i gyfnod yn y coleg, gan gynnwys Rules and other information respecting members of Balliol College (1933), a llythyrau at ei rieni, 1934-1935.

Traethawd BLitt,

Traethawd 'John Bale and his dramatic works' - 'Life and work' (cyfrol 1) a 'Works' (cyfrol 2). [Cyhoeddwyd ei lyfryddiaeth A Bibliography of John Bale yn Transactions of the Oxford Bibliographical Society yn 1940].

Rhaglenni cyngherddau,

Rhaglenni cyngherddau clasurol a dramâu a fynychodd yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, 1937-1938, ac eitemau printiedig eraill.

Results 41 to 60 of 142