Showing 123 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams file
Print preview View:

Hanes Plaid Cymru

Darlithoedd, nodiadau a thorion papur yn ymwneud â hanes Plaid Cymru, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid Genedlaethol yn Ne Cymru, a gynhaliwyd ym Mhenarth, 7 Ionawr 1924. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copi o lythyr, 1967, oddi wrth Elizabeth Williams yn ymwneud â'r cyfarfodydd cyntaf.

Williams, Elisabeth Elen, 1891-1979

Darlithoedd

Darlith a draddododd G. J. Williams yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn seiliedig ar arddangosfa o bortreadau rhai o enwogion Cymru; darlith yn dwyn y teitl 'Tri Chan Mlwyddiant yr Annibynwyr', ynghyd ag ychydig nodiadau ar Undodiaeth yn Sir Aberteifi.

Pregeth

Pregeth yn dwyn y teitl 'Beth a rydd Dyn yn gyfnewid am ei Enaid', wedi ei dyddio '21 April [17]52'. Nodir lleoliad a dyddiad y cyfarfodydd lle traddodwyd y bregeth ar y dudalen olaf.

Llyfr nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys hanes John Owen (1616-1683), y diwinydd Piwritanaidd, copi o'r 'Llythyr at Benllywydd y Cymmrodorion', wedi ei gyfieithu o Saesneg Dr Swift gan Lewis Morris, a barddoniaeth Gymraeg gan Lewis Morris a Goronwy Owen.

Morris, Lewis, 1701-1765

Iolo Morganwg

Drafftiau a llawysgrif y gyfrol Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956); ynghyd â pheth deunydd ar gyfer yr ail gyfrol arfaethedig, gan gynnwys 'Nodiadau ar waith Iolo o 1788 i 1826', a llawysgrif pennod yn dwyn y teitl 'O Forgannwg i Gaerfaddon (1788-1791)'.

Slipiau

Bwndeli o slipiau ymchwil G. J. Williams ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg: 'Iolo Morganwg' (A1-131); 'Iolo Morganwg' (B1-160); 'Cymysg ' (C1-197); 'Barddoniaeth Iolo a Nodiadau' (D1-82); 'Hanes a Brutiau' (F1-126); 'Beirdd a'u barddoniaeth' (G1-324); (J1-98); 'Coelbren y Beirdd' (K1-60); 'Bardic words' a 'Iolo's use of compounds'; 'Nodiadau o lyfrau'; 'Enwau lleoedd a barddoniaeth gwahanol feirdd, Llan. C34 + Addl MSS'; 'Nodiadau: Llanover MSS, C30. Peniarth, Meh. 16, 1928'; 'Cynnwys Ffilmiau 1.2.3b.3r.4.G. Cynnwys ffeithiau Iolo am ei fywyd ei hun'.

Rhestri

Nodiadau a rhestri amrywiol o lythyrau a llawysgrifau Iolo Morganwg. Yn eu plith ceir 'Catalogue of Ab Iolo's Library' a chopi o restr llawysgrifau Llanover yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

'Beirdd a Barddoniaeth Morgannwg'

Llawysgrifau darlithoedd yn bennaf, yn ymwneud â beirdd a barddoniaeth Morgannwg, gan gynnwys 'Beirdd Morgannwg', 'Beirdd a Barddoniaeth Morgannwg', 'The Welsh Bards and the Homes of the Gentry in the Vale of Glamorgan', 'Y Beirdd Cymraeg ac Abaty Margam' (ynghyd â fersiwn Saesneg), a 'Cerddi i Biwritaniaid Gwent a Morgannwg'.

Nodiadau ar unigolion

Nodiadau byr, gan fwyaf, ar unigolion megis Theophilus Evans, Edward Samuel, Silvan Evans, Thomas Richards, Edward Kyffin, John Walters (ynghyd ag amlen yn cynnwys 'John Walters a'i feibion, a Rhys Thomas, yr argraffydd'), aelodau teulu'r Myddleton, Ieuan Fardd, Angharad Llwyd, Thomas Edwards ('Twm o'r Nant'), Thomas Evans ('Tomos Glyn Cothi'), John Penri, Syr John Wynn o Wydir, Thomas Pennant, Goronwy Owen, Griffith Jones, Llanddowror, a Dr William Parry.

Addysg Gymraeg a Chymru ddwyieithog

Papurau'n ymwneud ag addysg Gymraeg a dwyieithrwydd, gan gynnwys darlithoedd yn dwyn y teitlau, 'UCAC ac Argyfwng yr Iaith', 'Cymru Ddwyieithog', 'Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd', 'Hanes Addysg Elfennol yng Nghymru' ac 'Argyfwng Cymru Heddiw'.

Gramadegau'r Penceirddiaid

Deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid a olygwyd gan G. J. Williams ac E. J. Jones (Caerdydd, 1934), gan gynnwys nifer o adysgrifau a chyfeiriadau at ramadegau mewn llawysgrifau, ynghyd â phapurau'n ymwneud â gramadegau Gutun Owain, Gwilym Tew, Einion Offeiriad a Dafydd Ddu Athro o Hiraddug. Mae rhai o'r papurau yn llaw E. J. Jones.

Jones, Evan J.

Results 41 to 60 of 123