Gohebiaeth deuluol a dyddiaduron
- P2
- series
- 1868-1961
Gohebiaeth deuluol G. J. Williams, 1868-1961, ynghyd â'i ddyddiaduron poced, 1920-1961.
Gohebiaeth deuluol a dyddiaduron
Gohebiaeth deuluol G. J. Williams, 1868-1961, ynghyd â'i ddyddiaduron poced, 1920-1961.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1916x1963], ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg, gan gynnwys drafftiau o'r gyfrol Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956); darlithoedd, [1916x1963]; nodiadau helaeth, [1916x1963]; adysgrifau o lawysgrifau Iolo, [1916x1963]; a llawysgrif yr erthygl 'Cywyddau'r Ychwanegiad at Waith Dafydd ap Gwilym' (Y Beirniad, VIII, 1919).
Iolo Morganwg, 1747-1826
Ysgolheictod Cymraeg ac argraffu
Darlithoedd ac erthyglau G. J. Williams ar ysgolheictod Cymraeg ac argraffu yng Nghymru. Yn eu plith ceir deunydd amrywiol ar Gruffydd Robert, Milan, Edward Lhuyd, Charles Edwards, a Dafydd Jones o Drefriw.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams, [1911x1963], ar lenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys deunydd perthynol i'r cyhoeddiad Gramadegau'r Penceirddiaid; nifer o ddarlithoedd ac erthyglau; ynghyd ag adysgrifau o lawysgrifau o wahanol ffynonellau a nodiadau amrywiol.
Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.
Llythyrau, 1914-1962, at G.J. Williams oddi wrth ysgolheigion, llenorion, cyhoeddwyr a chyfeillion. Mae'r mwyafrif yn ymwneud â'i arbenigedd yn yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth, ac ysgolheictod Cymraeg, gan gynnwys ei gyhoeddiadau, ei waith ymchwil, a'i aelodaeth o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae nifer yn ymwneud â'i weithgareddau fel siaradwr gwadd, darlithydd, athro, a beirniad eisteddfodol, a rhai'n ymwneud â materion gwleidyddol, yn arbennig sefydlu Plaid Cymru a helynt yr Ysgol Fomio. Ceir cyffyrddiadau mwy personol yn rhai o'r llythryau.
Papurau personol G. J. Williams, yn cynnwys ei basport a phapurau'n ymwneud â'i ymweliad â Rhufain, 1938, a Milan, 1947; tocynnau a rhaglenni ciniawau a darlithoedd, 1916-1962; ceisiadau am swyddi, 1914-1958; a phapurau ariannol ac amrywiol, 1918-1963.
Traddodiad llenyddol Morgannwg
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar draddodiad llenyddol Morgannwg, gan gynnwys drafft llawysgrif o'r gyfrol Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948); ei draethawd buddugol ar feirdd Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd, 1918; darlithoedd ac erthyglau, [1911x1963]; a nodiadau amrywiol, [1911x1963].
Drafftiau darlithoedd ac erthyglau gan G. J. Williams, ynghyd â nodiadau amrwyiol, yn ymwneud yn bennaf â'r Eisteddfod a'r Orsedd.
Cyfansoddiadau a beirniadaethau
Cyfansoddiadau llenyddol G. J. Williams, [1912x1925], gan gynnwys pryddestau a cherddi yn bennaf; cyfansoddiadau gan eraill, [1870x1963]; a beirniadaethau eisteddfodol amrywiol, 1940-1961.
Darlithoedd a phapurau'n ymwneud â hanes Plaid Cymru, 1924-1967, gan gynnwys cofnodion cyfarfod cyntaf y Blaid yn ne Cymru, 1924; papurau'n ymwneud â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio, 1936-1943; cofnodion cangen Dinas Caerdydd o Blaid Cymru, 1932-1936; a deunydd printiedig amrywiol, 1926-1965.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llawysgrif ei draethawd ymchwil, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'; darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar hanes yr iaith, yr iaith lafar, gramadeg a geirfa, enwau, yr ieithoedd Celtaidd, ac addysg Gymraeg; ynghyd ag ychydig bapurau perthynol i'w waith fel aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.
Darlithoedd amrywiol, [1919x1963]; deunydd yn ymwneud ag apêl Sain Ffagan, 1958; pregeth yn llaw G. J. Williams, [1911x1963]; a llythyrau, 1962, yn ymwneud â hanes y Cob Cymreig.
Mynegeion a slipiau ymchwil G. J. Williams, y mwyafrif yn cyfeirio at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg; darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau; nodiadau ar eu perchnogaeth; a nifer o adysgrifau a llungopïau.