Dangos 150 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adysgrifau: gohebiaeth benodol

Bwndeli yn cynnwys adysgrifau o ohebiaeth Iolo Morganwg: 'W. O. Pughe at Iolo'; 'Llythyrau Taliesin at Iolo a'i frawd, E. W., Strand'; 'Llythyrau i Peggy a J. Walters, etc.'; llythyrau Iolo Morganwg at Owain Myfyr yn bennaf; 'Llythyrau IM at O. Myfyr ac ambell un i W. O. Pughe a G. Mechain. O Bygones y rhan fwyaf ohonynt'; 'Llythyrau IM at W. O. Pugh, Owain Myfyr, Gwallter Mechain, Ed. Williams, Y Strand, Rev. John Jones, Gelli Onnen, ...'; 'IM at Rev. D. Williams, George Dyer, Wm Wms Printer, Merthyr, ab Iolo a Peggy, Wm Howells, Rev. Hugh Jones, Lewisham, Tywysog Cymru, D. Davies, Llwynrhydowen ...'; 'i Lloyd Cil-y-bebyll, [a] Mr Williams, Cowbridge'; 'Spencer, Redwood, Tal[iesin]'; llythyrau at Iolo Morganwg yn nhrefn cyfenwau (A-C); a llythyrau Edward Williams, Strand, at Edward Williams, Flimston, ayyb.

Adysgrifau: cyffredinol

Bwndeli yn bennaf yn cynnwys adysgrifau o lawysgrifau Iolo Morganwg: Llanover Dosbarth C; llythyrau oddi wrth Iolo; llythyrau at Iolo; trefniant 'N'; trefniant 'Am'; 'Iolo 1 - dim llythyrau Iolo yn hwn' (PIAW 1-346); 'Iolo 2 - dim llythyrau personol' (PIAW 347-735); a chyfrol 'Ff. 1. IAW 1'.

Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg

Copi llawysgrif o'r memorandwm a luniodd G. J. Williams, [c. 1950], ynglŷn â sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg. Mae'r memorandwm, a oedd i'w drafod ym Mhwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, yn cynnwys ei weledigaeth o'r modd y dylid hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd gopi teipysgrif o'r cyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd y memorandwm yn Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg (Caerdydd, 1985).

Addysg Gymraeg a Chymru ddwyieithog

Papurau'n ymwneud ag addysg Gymraeg a dwyieithrwydd, gan gynnwys darlithoedd yn dwyn y teitlau, 'UCAC ac Argyfwng yr Iaith', 'Cymru Ddwyieithog', 'Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd', 'Hanes Addysg Elfennol yng Nghymru' ac 'Argyfwng Cymru Heddiw'.

Canlyniadau 141 i 150 o 150