- G5/17
- file
- 1997-1998
Ymhlith y papurau ceir rhaglen Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1997-1998.
Ymhlith y papurau ceir rhaglen Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1997-1998.
Ceir rhaglen gwasanaeth Nadolig 1997 ymhlith y papurau.
Adroddiad pensaernïol ar gyflwr y nenfwd, 1997, a baratowyd ar gyfer Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ynghyd ag amcangyfrifon, 1998, a chofnodion y Pwyllgor Adeiladu, 1997-1998.
Mae rhaglen gwasanaeth Nadolig 1996 a thaflen gwasanaeth sefydlu'r Parchedig Harri Parri yn weinidog gofalaeth Eglwysi Caernarfon hefyd ymhlith y papurau.
Llythyrau ac amcangyfrifon, 1995-1998, yn ymwneud â'r diffygion yn y nenfwd, a chofnodion y Pwyllgor Adeiladau, 1996.
Ymhlith y papurau mae rhaglen gwasanaeth Nadolig 1995.
Llythyrau, 1994-1995, ynghyd ag adroddiad y syrfewr, 1994, ar gyflwr yr Eglwys ac ar ddiffygion yn y nenfwd, 1995.
Llythyrau a phapurau ariannol, 1994.
Llythyrau a phapurau ariannol, 1993-1994.
Llythyrau a phapurau ariannol, 1992.
Llythyrau a phapurau ariannol, 1991.
Llythyrau, 1987-1988, yn ymwneud â gwaith ar y llwybr troed tu allan i'r Eglwys a chofrestru'r adeilad fel un gradd II.
Llythyrau, 1985-1988, yn ymwneud ag adnewyddu portico Eglwys Engedi, gan gynnwys gohebiaeth rhwng y pensaer ag Ysgrifennydd yr enwad.
Llythyrau, 1975-1976, oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Arfon yn ymwneud â'r cynllun arfaethedig i ailddatblygu gan ddefnyddio'r Eglwys. Llythyrau, 1979-1985, yn ymwneud ag adnewyddu Eglwys Engedi, gan gynnwys adroddiad, 1979, ar gyflwr yr adeiladau.
Llythyrau, 1957-1962, yn ymwneud â chynnal a chadw'r Eglwys.
Nodir enwau, cyfeiriadau a chyfraniadau'r aelodau, 1898-1983. Ffurflenni a geir yn y ffeil olaf yn crynhoi'r cyfraniadau, 1992.
Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.
Llyfrau cofnodion amrywiol yn ymwneud â materion fel organ yr Eglwys, 1893-1985, a chofnodion y Pwyllgor Bugeiliol, 1989-1996. Ceir hefyd gofnodion Cyngor Eglwysi Rhyddion Caernarfon, 1914-1929.
Cofnodion yn ymwneud â phwyllgorau amrywiol yr Eglwys, 1882-1999, y swyddogion yn arbennig, ac adroddiadau am gyfarfodydd sefydlu gweinidogion.