Llyfr casgliad y weinidogaeth: 1933-[1954]
- A3/5
- file
- 1933-[1954]
Ceir cyfrifon y Gronfa Gynnal hefyd, 1948-[1954].
Llyfr casgliad y weinidogaeth: 1933-[1954]
Ceir cyfrifon y Gronfa Gynnal hefyd, 1948-[1954].
Cyfrifon ariannol, 1924-1929. Ar ddiwedd y gyfrol ceir manylion am farwolaethau, bedyddiadau, priodasau, y rhai a symudodd i eglwysi eraill, a'r rhai a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau, 1949-1962.
Gohebiaeth y Trysorydd: 1977-1987
Y Casgliad Chwarterol (llyfr 1): 1938-1948
Llyfr nodiadau a ddefnyddiwyd fel cofrestr, 1973-1983, o'r aelodau newydd a'r rhai a oedd wedi gadael trwy docyn neu heb docyn, ynghyd â chofnod o'r rhai a fedyddiwyd, a briododd ac a fu farw.
Papurau'n ymwneud â'r organ, gan gynnwys llyfrau cofnodion Pwyllgor yr Organ, 1893-1900, 1900-1908, a 1909-1911; llythyrau cais, 1910, am swydd organydd; llyfr cofnodion dewis organydd, 1946, a chofnodion y Pwyllgor Cerdd 1947; ynghyd â llythyr, 1985, am gyflwr yr organ.
Pwyllgor Lleol y Llysoedd Cyfundebol
Cofnodion, 1938-1970, yn ymwneud â threfnu cyfarfodydd Cymdeithasfa'r Gogledd.
Llythyrau, 1957-1962, yn ymwneud â chynnal a chadw'r Eglwys.
Gohebiaeth, 1964, yn ymwneud â galwad y Parch. Trefor Jones i fod yn weinidog ar Eglwys Engedi.
Llythyrau, 1988-1995, yn ymwneud â phrynu a gwerthu'r tir a ddefnyddiwyd fel maes parcio Eglwys Engedi.
Mae rhaglen gwasanaeth Nadolig 1996 a thaflen gwasanaeth sefydlu'r Parchedig Harri Parri yn weinidog gofalaeth Eglwysi Caernarfon hefyd ymhlith y papurau.
Llythyrau, 1987-1988, yn ymwneud â gwaith ar y llwybr troed tu allan i'r Eglwys a chofrestru'r adeilad fel un gradd II.
Llyfr yn cofnodi enwau'r rhai a ddaethant â thocynnau aelodaeth o eglwysi eraill i Eglwys Engedi, 1886-1894, ac yng nghefn y gyfrol ceir enwau'r rhai a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau, 1886-1893. Ceir llyfr hefyd yn rhestru'r ymgeiswyr am aelodaeth, 1867-1886, gan gynnwys rhai a dderbyniwyd o Eglwysi eraill ac aelodau a ddiarddelwyd. Yn ogystal ceir nifer helaeth o docynnau aelodaeth, 1939-1997.
Cyfrol yn cynnwys manylion am drefn claddedigaethau, 1917-1931, ynghyd â thystysgrifau rhydd ar gyfer claddu, 1936-1944, ar ôl cofrestru'r farwolaeth.
Papurau, 1937-1990, yn trafod festri Engedi, 1940-1942; gwerthu'r Mans Bryn Beuno, 1976-1977 [a brynwyd yn 1909]; ynghyd â llythyrau'n ymdrin â gwerthu'r Tŷ Capel, 1987-1988; a phapurau, 1990, yn ymwneud â phrynu tŷ arfaethedig i'r gweinidog.
Llyfr yr ysgrifennydd: [1964]-1971
Llyfr yr ysgrifennydd: 1968-1975
Nodir presenoldeb yr athrawon a'u dosbarthiadau, 1920-1926.