- G2/1
- file
- 1864-1887
Yn cynnwys gwybodaeth, 1864-1887, am enwau a chyfeiriadau'r aelodau a'u cyfraniadau misol.
Yn cynnwys gwybodaeth, 1864-1887, am enwau a chyfeiriadau'r aelodau a'u cyfraniadau misol.
Nodir y dechreuwyd defnyddio'r gyfrol o 1 Ionawr 1905 ymlaen ond ceir dyddiadau cynt na hwn fel y dyddiad y derbyniwyd yr aelodau i gymundeb. Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marwolaeth. Yng nghefn y gyfrol ceir manylion am swyddogion yr Eglwys ac am lyfrau casgliad misol y weinidogaeth, 1905-1936.
Ceir gorgyffwrdd rhwng y cofnodion a geir yma a'r rhai sydd yn G3/1.
Llyfr cofnodion a llythyrau, 1909, yn ymwneud â galw gweinidog newydd pan ddewiswyd y Parchedig John Owen.
Cymdeithasfa Caernarfon: Pwyllgor Ymborth
Cofnodion yn ymwneud â'r trefniadau arlwyo yn y cymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1956, 1959 a 1962. Ceir cofnodion ar gyfer 1962 yn yr ail gyfrol.
Llythyrau'n ymwneud â'r Pwyllgor Bugeiliol, 1989-1991, yn arbennig dewis olynydd i'r Parch. Trefor Jones i fod yn gyfrifol am Ofalaeth Bresbyteraidd Caernarfon (Eglwysi Beulah, Engedi a Phenygraig). Ceir hefyd gofnodion y pwyllgor a phwyllgorau eraill, 1989-1996, gan gynnwys Pwyllgor y Tair Eglwys.
Cylchlythyrau, 1987-1991, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a anfonwyd o'r pencadlys yng Nghaerdydd yn ymwneud â materion fel Y Gronfa Gynnal a chyfraniadau eraill.
Ymhlith y papurau mae rhaglen gwasanaeth Nadolig 1995.
Ceir rhaglen gwasanaeth Nadolig 1997 ymhlith y papurau.
Llythyrau, 1985-1988, yn ymwneud ag adnewyddu portico Eglwys Engedi, gan gynnwys gohebiaeth rhwng y pensaer ag Ysgrifennydd yr enwad.
Llythyrau, 1994-1995, ynghyd ag adroddiad y syrfewr, 1994, ar gyflwr yr Eglwys ac ar ddiffygion yn y nenfwd, 1995.
Manylion, 1896-1900, am bwy oedd yn gyfrifol am agor y drysau ac am ddechrau gwasanaethau'r Ysgol Sul.
Trip yr Ysgol Sul: llyfr cyfrifon
Cyfrol a ddefnyddiwyd i nodi presenoldeb a'r casgliad, 1983-1990.
Tybir mai llyfr cyfrifon, 1951-1983, yn perthyn i Mark Lane yw hwn gan fod papurau rhydd ynddo yn dwyn yr enw.
Cyfrol brintiedig yn cynnwys ystadegau am y penodau a'r adnodau a ddarllenwyd yn [Ysgol Sul Engedi] ac yn Ysgol y Seler a manylion am y cyfarfodydd dirwestol, 1871-1874.
Materion diwylliannol a chymdeithasol
Cofrestri Cymdeithas Ddirwestol Engedi, [1862]-1965, llyfr cofnodion Cyfarfod Cystadleuol, 1884-1885, a phapurau'n perthyn i Gymdeithas Lenyddol Engedi, 1883-1927.