Print preview Close

Showing 184 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon
Print preview View:

Mark Lane

Papurau, 1917-1983, yn ymwneud ag Ysgol Sul Mark Lane, gan gynnwys llyfr cyfrifon a llafur, 1917-1926, a llyfr cofnodion, 1953-1973.

Ysgol Sabothol Mark Lane (Caernarfon, Wales)

Cyfarfod Cystadleuol Engedi

Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi, Caernarfon, 1884-1885, ynghyd â thraethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabathol Engedi 1896.

Papurau cymysg

Manylion am hanes codi Eglwys Beulah, ynghyd â llythyrau, 1884-1886, yn ymwneud â'r gwaith hwn a thocyn aelodaeth aelod yn Eglwys Moriah, 1844, a phenderfyniadau cyfarfod o swyddogion Eglwysig Moriah ac Engedi, 1849. Ceir hefyd ymdriniaeth 'Cipdrem ar Fywyd Ysbrydol Engedi Ddeugain Mlynedd yn ol' a gyflwynwyd yn 1936, taflen Dathlu Canmlwyddiant a Hanner 1842-1992 Eglwys Engedi, a thaflenni gwasanaethau Nadolig, 1992-1996.

Capel Moriah (Caernarfon, Wales)

Materion ariannol

Cofnodion ariannol yn cynnwys llyfrau casgliadau, 1841-1982, llyfrau'r eisteddleoedd, 1852-1975, llyfrau'r weinidogaeth, 1898-1991, papurau'r Trysorydd, llyfrau cyfraniadau at Y Casgliad Chwarterol a'r Gronfa Gynnal, ynghyd â ffurflenni cyfamodi, 1951-1986, buddsoddiadau, 1952-1996, yswiriant, 1940-1995, a phapurau ariannol amrywiol, 1910-1997.

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.

Results 141 to 160 of 184