Mae'r ffeil yn gyfrol a oedd yn wreiddiol yn lyfr cofnodion i'r 'Llanelly Royal National Eisteddfod 1930 Gorsedd Committee'. David Bowen oedd ysgrifennydd y pwyllgor hwn ac yn ddiweddarach fe ddefnyddiodd y gyfrol fel llyfr nodiadau gan bastio ynddi doriadau papur newydd o'r Llanelly Mercury yn ymwneud yn bennaf â Chymdeithas Cymmrodorion Llanelli. Y mae llun o Orsedd Llanelli wedi ei ludo i dudalen gyntaf y gyfrol.
Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Myfyr Hefin yn bennaf, gan gynnwys cyfres ganddo 'Mamau Cymru a'r Beibl' a'i fwletinau i Urdd y Seren Fore. Ceir hefyd dysteb i Myfyr Hefin, 1936, rhai toriadau personol a thoriadau yn ymwneud â'r Cymdeithasau Cymreig. Daw'r toriadau fwy na heb o Seren yr Ysgol Sul, Seren Cymru a'r Llanelli Mercury.
Welsh Baptist Union. Welsh Baptist Young People's Union. Urdd y Seren Fore
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr yn cofnodi pwnc, dyddiad, lleoliad a thâl am ei bregethau, 1905-1954, a llyfr yn cofnodi pwnc, dyddiad a lleoliad ei bregethau, 1907-1948, ynghyd â chyfrifon amrywiol.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a rhyddiaith gan awduron amrywiol, nifer ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer Seren yr Ysgol Sul a chyhoeddiadau eraill ar bynciau crefyddol neu ddiwylliannol.
Mae'r ffeil yn cynnwys teyrnged i David Bowen ar ei gyfraniad i fywyd y capel a'i waith yn golygu Seren yr Ysgol Sul; papurau yn ymwneud â hanes y capel a'r diaconiaid; a dogfen, 1854, yn ymwneud â pherchnogaeth darn o dir o'r enw Alltybrain yn Llandyfaelog Fach, sir Frycheiniog.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr o gerddi David Bowen a gopïwyd ganddo ynghyd â rhestr o'r cerddi. Ceir hefyd restr o aelodau 'Cylch awen a chân' ardal Llanelli, 1952-1953.
Mae'r ffeil yn cynnwys cerdd llawysgrif gan Brynfab ar achlysur dadlennu cofgolofn Ben Bowen, llythyr oddi wrth E. Williams, mab Brynfab, nodiadau ar waith Brynfab o dan y teitl 'Oriel y Beirdd' a thoriadau papur newydd.
Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau papur newydd am Ben Bowen; llythyrau at David Bowen yn cynnwys un gan Vincent Evans, 1905; llyfryn 'Gŵyl Llyfrau Cymru 1934' ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r ŵyl a rhaglen cwrdd dadorchuddio cofeb Ben Bowen.
Mae'r ffeil yn cynnwys copi gorffenedig o 'Goleuni'r Byd' a ysgrifennwyd yn Ne Affrica ac a enillodd Gadair Eisteddfod Llundain yn 1902, ynghyd â'r feirniadaeth ohoni gan Elfed; copi o 'Ymadawiad Arthur' ar gyfer Eisteddfod Bangor a cherddi eraill.