- G4.
- series
- 1936-1937 a 1944-1989.
Mae'r gyfres yn dadansoddi yn wythnosol casgliad y capel at weithgareddau'r eglwys.
Mae'r gyfres yn dadansoddi yn wythnosol casgliad y capel at weithgareddau'r eglwys.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfraniadau aelodau a phlant yr eglwys, 1954-1956 a 1964-1978, at y genhadaeth, diolchgarwch a'r eisteddleoedd. Cofnodir cyfraniadau Hyfrydle yn ogystal â Seilo yn y mwyafrif o'r cyfrolau.
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd swyddogion y capel, 1889-1965 a 1971-[1972]. Amgaeeir nifer o bapurau a llythyrau yn y cyfrolau, rhai wedi eu gludo ac eraill yn rhydd.
Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â chymdeithasau'r eglwys, 1897-2000 (gyda bylchau), sef y Gymdeithas Ddirwestol, y Gymdeithas Llên a Chân, Cymdeithas y bobl ifanc, a'r dosbarth wnïo. Maent yn cynnwys cofrestri aelodau, llyfrau cofnodion a chyfrifon.
Mae'r gyfres yn cynnwys cofrestri eglwysig a rhestri aelodau Eglwys Seilo, ynghyd â chofnodion a chyfrifon ar gyfer Capel Ebenezer (gweler disgrifiad lefel ffeil). Cofnodir enwau a chyfeiriadau aelodau'r eglwys, cymunwyr newydd a phlant yr eglwys. Ceir nodyn hefyd os ydynt wedi ymadael i eglwysi eraill neu os bu farw aelodau. Mae rhai cyfrolau yn cynnwys ystadegau am aelodaeth yr eglwys a chyfrifon ariannol.
Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau ariannol amrywiol, 1878-1952, yn eu plith cyfrolau sy'n cofnodi derbyniadau a thaliadau, 1878-1947; a chyfriflyfrau sy'n cofnodi holl weithgarwch ariannol yr eglwys, 1878-1952.
Mae'r gyfres yn rhestru cymerwyr seddau, y nifer o leoedd, y pris chwarterol, ôl-ddyled a'r symiau a dderbyniwyd, 1898-1956 (gyda bylchau).
Llyfrau casgliad y Weinidogaeth,
Mae'r gyfres yn cynnwys enwau aelodau, eu cyfeiriad a'u cyfraniadau at y Weinidogaeth.
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, sef rhestri aelodau'r dosbarthiadau a'r arolygwyr, ac ystadegau yn cofnodi presenoldeb, nifer yr adnodau, a chyfraniadau yn bennaf.
Llyfrau derbyniadau a thaliadau,
Mae'r gyfres yn cynnwys manylion am dderbyniadau a thaliadau ariannol yr eglwys, 1865-1935 a 1948-1978. Ymddengys fod rhai ohonynt yn perthyn i Drysorydd y Capel; yn eu plith ceir 'Llyfr Cyfrifon yr Ysgrifenydd Arianol', 1920-1935, sy'n cofnodi arian a gasglwyd ar gyfer amryw o achosion.
Dyddiadur a thaflenni printiedig,
Mae'r gyfres yn cynnwys dyddiadur digwyddiadau, 1914-1921; a thaflenni printiedig yn ymwneud â'r Arddangosfa Genhadol yn Llandudno yn 1928, a chyfarfodydd wythnosol yn yr eglwys, [1938].
Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, sef rhestri athrawon ac aelodau'r dosbarthiadau ac ystadegau yn cofnodi presenoldeb, nifer yr adnodau, a chyfraniadau yn bennaf.
Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd athrawon yr Ysgol Sul.