Print preview Close

Showing 101 results

Archival description
CMA: Cofnodion Eglwys Seilo, Llandudno,
Advanced search options
Print preview View:

Cymdeithasau,

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau yn ymwneud â chymdeithasau'r eglwys, 1897-2000 (gyda bylchau), sef y Gymdeithas Ddirwestol, y Gymdeithas Llên a Chân, Cymdeithas y bobl ifanc, a'r dosbarth wnïo. Maent yn cynnwys cofrestri aelodau, llyfrau cofnodion a chyfrifon.

Cymdeithas Llên a Chân (amrywiol),

Dogfennau amrywiol yn ymwneud â Chymdeithas Llên a Chân Seilo, Peniel a Bethania, sef llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon, 1973-1998; mantolenni ariannol, 1991-1999; cardiau aelodaeth yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau'r Gymdeithas, 1988-1999; a llythyr perthnasol, 1999.

Cymdeithas Llên a Chân Eglwys Seilo, Llandudno.

Ysgol Sul (amrywiol),

Cyfrol, c. 1940, a thaflenni rhydd, [1938], [1942] a [1945], yn cofnodi cyfraniadau aelodau'r Ysgol Sul tuag at y Genhadaeth, y Ddyled a'r Ysgol; ynghyd â deuddeg o Lyfrau'r Athro, [1940x1950].

Cofnodion gweinyddol y capel,

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau gweinyddol ynghyd â deunydd ariannol yr eglwys, 1854-2000, yn eu plith cofrestri eglwysig, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion cyfarfodydd swyddogion yr Eglwys a phapurau yn ymwneud â chymdeithasau.

Cofrestri eglwysig,

Mae'r gyfres yn cynnwys cofrestri eglwysig a rhestri aelodau Eglwys Seilo, ynghyd â chofnodion a chyfrifon ar gyfer Capel Ebenezer (gweler disgrifiad lefel ffeil). Cofnodir enwau a chyfeiriadau aelodau'r eglwys, cymunwyr newydd a phlant yr eglwys. Ceir nodyn hefyd os ydynt wedi ymadael i eglwysi eraill neu os bu farw aelodau. Mae rhai cyfrolau yn cynnwys ystadegau am aelodaeth yr eglwys a chyfrifon ariannol.

Results 21 to 40 of 101