- P1/3.
- ffeil
- [1970]-[1996].
Teipysgrifau gan mwyaf o lythyrau at olygyddion Y Cymro, Y Faner, Western Mail, Guardian ac eraill, ynghyd â rhai torion o'r wasg.
Teipysgrifau gan mwyaf o lythyrau at olygyddion Y Cymro, Y Faner, Western Mail, Guardian ac eraill, ynghyd â rhai torion o'r wasg.
Llythyrau oddi wrth Glyn Jones,
Llythyrau oddi wrth yr artist Glyn Jones, 1979-1982, a manylion am ei arddangosfeydd.
Jones, Glyn, 1936-
Llythyrau Ysgol Gyfun Dyffryn Aman,
Llythyrau, 1983, oddi wrth ddisgyblion dosbarth pedwar yr ysgol yn gofyn am ystyr y geiriau 'Sen ta cher netjer' yn ei gerdd 'Ar fore Sul'.
Llythyrau, 1946-1997, gan gynnwys rhai oddi wrth Rhydwen [Williams], Gwynfor Evans, Kate Roberts (3), John Rowlands, John Emyr, Saunders Lewis, Densil Morgan, R. [Tudur Jones] (3), Derwyn Morris Jones (2), Ceri Davies (1) a D. J. Williams (3).
Williams, Rhydwen.
Llythyrau, 1953-[1999], gan gynnwys rhai oddi wrth Bleddyn J. Roberts, Katrin [Kate Bosse-Griffiths], Iorwerth Jones, Prys Morgan, Aneirin Talfan Davies, Mathonwy Hughes, R. Brinley Jones, Gwilym R. Jones, Gwilym Rees Hughes, Gareth [Alban Davies] (2), D. Ellis Evans (2), Melfyn R. Williams, Bobi Jones (2), John Tudno Williams (2), Brinley Rees, Dafydd Orwig (3), [D.] Myrddin [Lloyd], Cyril Williams (4), Gwilym H. Jones (3), W. D. Davies (4), Marian Henry Jones (5), Euros [Bowen], Nigel Jenkins, Gwilym Ll[oyd] Edwards (2), Alan Llwyd, Telfryn [Pritchard] (5), W. Eifion Powell, Cedric Maby, Mari Ellis, Gerald Morgan, Dafydd Islwyn, Ned Thomas (2), Alun R. Jones (2), Simon Brooks, Rob[at] [Gruffudd], D. Densil Morgan, Pennar [Davies] (2) ac Aneirin [Talfan Davies]. Ceir drafftiau o rai o lythyrau J. Gwyn Griffiths ar ddiwedd y rhediad.
Roberts, Bleddyn J. (Bleddyn Jones)
Adolygiadau o lyfrau, sylwadau ar gynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, llythyrau at y wasg, [1942]-[1989], ynghyd â llythyrau a thorion yn ymwneud â'r carcharor gwleidyddol John Jenkins, 1972-1973.
Moeseg Nicomachaidd Aristoteles,
Adroddiad darllenydd ganddo ar gyfieithiad a rhagymadrodd John Fitzgerald, 1992, [fe'i cyhoeddwyd yn 1998].
Pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Beibl, 1988,
Darlithoedd a nodiadau a baratowyd ganddo ar gyfer cyfres o 6 darlith (Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe), ynghyd â'r 'Cyfieithiad newydd o'r Testament Newydd', darlith flynyddol Coleg y Bedyddwyr, Bangor, 1975, a chopi o Seren Gomer, Gaeaf 1975, yn cynnwys ei erthygl 'Y cyfieithiad Cymraeg newydd o'r Testament Newydd II'.
Papurau'n ymwneud â chyhoeddi trosiad o nofel Tolstoi, Childhood, a olygwyd gan J. Gwyn Griffiths.
Toriad o’r Cymro, 1970, yn nodi y dyfarnwyd ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau iddo, enwebiad ar gyfer gradd MA er anrhydedd, Y Brifysgol Agored, 1983, a Rhaglen deyrnged Barddas i'r Prifardd Rhydwen Williams (Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990) a luniwyd gan J. Gwyn Griffiths.
Rilke : 'Einsamkeit' a chenedl,
Teipysgrif a drafft llawysgrif o'r ysgrif a gyhoeddwyd yn Ysgrifau Beirniadol, 25 (1999), ynghyd â'i erthygl 'Rilke ac Ewrop', Barn, Ebrill 1985.
Erthygl 'Yr Athro Roy Lewis: cywiro cofnod' [Taliesin, Haf 2000], ynghyd â thorion o'r wasg a'r Faner (13 Ionawr 1989) yn cynnwys teyrnged iddo ac adolygiad o'i nofel Cwrt y gŵr drwg, 1989.
Drafft llawysgrif a theipysgrif o'i ysgrif a gyhoeddwyd yn D. Tecwyn Lloyd [a] Gwilym Rees Hughes, Saunders Lewis (Llandybïe, 1975).
Sgwrs yn y gyfres 'Y Silff Lyfrau', 1945, 'Bedd Sant Pedr', [1956] a 'Y daith i lan y môr' gan Roy Lewis a addaswyd gan J. Gwyn Griffiths, 1965.
Lewis, Roy, 1922-1988.
Llungopïau o storïau gan aelodau'r Cylch a gyhoeddwyd eisoes, ynghyd â llythyrau oddi wrth Gareth Alban Davies, 1979, yn ymwneud â'r gyfrol arfaethedig.
Davies, Gareth Alban.
Tarddiad syniadol y 'Dialogues inter corpus et animam' a'r ffurfiau Cymraeg,
Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i erthygl a gyhoeddwyd yn [Llên Cymru, 1997], gan gynnwys llythyrau oddi wrh y golygydd Gruffydd Aled Williams, ynghyd â nodiadau ymchwil.
Williams, Gruffydd Aled
Teyrngedau i goffáu Trebor Lloyd Evans, 1979, ar gyfer Wilia [papur Cymraeg misol Abertawe], John Griffiths, 1980, Saunders Lewis, 1985, J. Henry Jones, 1985, Chris Zaremba, Y Faner, Mawrth 1990, Pennar Davies [cyhoeddwyd yn Taliesin, Gwanwyn, 1997], 'Cyfarch yr Athro W. D. Davies', [1984] ac i'w frawd Gwilym Griffiths, 2002.
Torion o 'Proffwydi'r Ganrif hon' (Seren Cymru), 1940-1941, gan nifer o awduron gan gynnwys erthyglau gan Kate Bosse Griffiths a J. Gwyn Griffiths a ysgrifennodd y rhagarweiniad i’r gyfres. Ceir llythyr oddi wrth Hywel Francis, [1990au hwyr] yn diolch iddo am fenthyg ei erthygl ar Paul Robeson.
Bosse-Griffiths, Kate, 1910-1998.