Showing 68 results

Archival description
Papurau J. Gwyn Griffiths, file
Advanced search options
Print preview View:

Etholiadau,

Anerchiadau etholiadol J. Gwyn Griffiths pan fu’n ymgeisydd ar ran Plaid Cymru yn etholiadau cyffredinol 1959 a 1964 (Etholaeth Gŵyr), etholiad trefol Abertawe, 1969, ac etholiad dinesig Abertawe, 1970, ynghyd â thorion o'r wasg.

Torion 'Proffwydi',

Torion o 'Proffwydi'r Ganrif hon' (Seren Cymru), 1940-1941, gan nifer o awduron gan gynnwys erthyglau gan Kate Bosse Griffiths a J. Gwyn Griffiths a ysgrifennodd y rhagarweiniad i’r gyfres. Ceir llythyr oddi wrth Hywel Francis, [1990au hwyr] yn diolch iddo am fenthyg ei erthygl ar Paul Robeson.

Bosse-Griffiths, Kate, 1910-1998.

Cerddi o'r Lladin (1962),

Rhifyn o’r Llenor, Gaeaf, 1934, yn cynnwys papurau’n ymwneud â chyhoeddi’r gyfrol o drosiadau a olygwyd ganddo, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Hudson [Williams], 1954, Cynan, 1947, Mari Headley [Ellis], 1947, E. Tegla Davies, 1954, T. I. Ellis, 1947, a chyfieithiadau drafft.

Hudson-Williams, T. (Thomas), 1873-1961.

'Lle pyncid cerddi Homer',

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i erthygl a gyhoeddwyd yn Barn, Mawrth 1997, gan gynnwys llythyr oddi wrh Ceri Davies, 1996, a chopi o ddarlith John Ellis Jones, 'Lle pyncid cerddi Homer a Virgil', darlith a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ac a gyhoeddwyd yn [1996] .

Davies, Ceri.

'Dail pren' : y cysodiad cyntaf,

Llythyrau, [1956]-[1965], oddi wrth Waldo Williams, [J. E.] Caerwyn [Williams], 1956-1991, llythyr oddi wrth Damian Walford Davies, 1998, a thorion o'r wasg, yn ymwneud â'i erthygl ar Waldo Williams a gyhoeddwyd yn Taliesin, 1998, ynghyd â chopi teipysgrif o'r erthygl.

Davies, Ceri.

Ysgrifau amrywiol,

Teipysgrifau erthyglau 'Pennar Davies: more than a poeta doctus', (Triskel Two (Llandybïe, 1973)) gyda llythyr oddi wrth Pennar Davies, 'Eschatoleg T. Gwynn Jones' (Barn, 1981), 'Catwlws o Ferona' (Taliesin, 1982) ac eraill, ynghyd â rhai adolygiadau.

Davies, Pennar

Beirniadaethau eisteddfod,

Beirniadaethau ar y fedal ryddiaith, [Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952], y soned yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, 1969, ynghyd â llythyr oddi wrth ei gyd-feirniad J. Tysul Jones, y soned arbrofol yn [Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1970] a'r bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd, 1972, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ei gyd-feirniaid Haydn Lewis a Bobi Jones. Ceir hefyd ei feirniadaeth ar y cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg, Eisteddfod Ryngolegol Abertawe, 1984.

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

Storïau Cadwgan,

Llungopïau o storïau gan aelodau'r Cylch a gyhoeddwyd eisoes, ynghyd â llythyrau oddi wrth Gareth Alban Davies, 1979, yn ymwneud â'r gyfrol arfaethedig.

Davies, Gareth Alban.

Cyfieithiadau,

Trosiad T. Hudson-Williams o Athaliah gan Jean Racine, [1948], ynghyd â rhagymadrodd a gyhoeddwyd yn Y Genhinen, 1926, a llythyr oddi wrtho, 1948; ei drosiad o Storïau Erben, 1954, ac o Storïau Tolstoi, 1955; a chyfieithiad T. P. Williams o Barabbas gan Pär Lagerkvist, 1975.

Hudson-Williams, T. (Thomas), 1873-1961.

Llythyrau at y wasg,

Teipysgrifau gan mwyaf o lythyrau at olygyddion Y Cymro, Y Faner, Western Mail, Guardian ac eraill, ynghyd â rhai torion o'r wasg.

Etholiadau,

Llythyrau at y wasg a ysgrifennwyd ganddo fel Swyddog y Wasg, Plaid Cymru, a thorion (Chwefror 1974) o'r South Wales Evening Post yn bennaf, 1973-1974, yn ymwneud ag etholaeth Gorllewin Abertawe yn y cyfnod yn arwain at Etholiad Cyffredinol 1974.

Results 41 to 60 of 68