Showing 81 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau J. Gwyn Griffiths,
Print preview View:

Papurau personol,

Llythyrau, papurau'n ymwneud â'i yrfa yn y Brifysgol a phapurau'n adlewyrchu'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, 1933-[1999].

Gohebiaeth,

Llythyrau, 1946-[1999], oddi wrth aelodau'r teulu a ffrindiau, ac yn ymwneud â'i waith fel llenor a darlithydd.

Llythyrau,

Llythyrau, 1946-1997, gan gynnwys rhai oddi wrth Rhydwen [Williams], Gwynfor Evans, Kate Roberts (3), John Rowlands, John Emyr, Saunders Lewis, Densil Morgan, R. [Tudur Jones] (3), Derwyn Morris Jones (2), Ceri Davies (1) a D. J. Williams (3).

Williams, Rhydwen.

Ceisiadau,

Papurau, 1933-1986, gan gynnwys cais am radd DD, 1980, tystlythyrau, 1933-1934 a curriculum vitae, cais am gadair yn y Clasuron, Prifysgol Abertawe, 1967, ymchwil proffesiynol, ynghyd ag adroddiad 'Taith Ymchwil yn yr Undeb Sofiet', 1986.

Y Ffynhonnau ir,

Darlith a draddodwyd ganddo ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd, 1984, i ddathlu canmlwyddiant y sefydliad.

Pedwar canmlwyddiant cyfieithu'r Beibl, 1988,

Darlithoedd a nodiadau a baratowyd ganddo ar gyfer cyfres o 6 darlith (Adran Addysg Oedolion Coleg Prifysgol Abertawe), ynghyd â'r 'Cyfieithiad newydd o'r Testament Newydd', darlith flynyddol Coleg y Bedyddwyr, Bangor, 1975, a chopi o Seren Gomer, Gaeaf 1975, yn cynnwys ei erthygl 'Y cyfieithiad Cymraeg newydd o'r Testament Newydd II'.

Etholiadau,

Llyfr cyfrifon Cangen Plaid Cymru, Abertawe, 1960-1964, a llyfrau nodiadau yn ymwneud â threfniadau etholiadau lleol yn ardal Abertawe, 1967-1972.

Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),

Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.

Davies, Ceri.

Bro a Bywyd D.J. Williams, (1983),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'i gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd yn 1983 gan gynnwys llythyrau, 1940-1967, oddi wrth D. J. Williams, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans yn diolch am y gyfrol ac adolygiadau hefyd. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â D. J. Williams, Y gaseg ddu a gweithiau eraill (1970), wedi'u casglu a'u golygu gyda rhagymadrodd gan J. Gwyn Griffiths.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Cath a Llygoden (1994),

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r cyfieithiad o nofel Günter Grass, Katz und Maus, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gwilym Ll[oyd] Edwards, y cyfieithydd, a phroflenni. J. Gwyn Griffiths oedd golygydd cyfres yr Academi o gyfieithiadau.

Edwards, Gwilym Lloyd, 1920-

Cerddi,

Cerddi mewn teipysgrif a gyhoeddwyd yn Cerddi’r Holl Eneidiau yn 1981 ac yn ddiweddarach yn Hog dy fwyell (2007), casgliad o gerddi J. Gwyn Griffiths a olygwyd gan ei fab Heini Gruffudd.

Rhydwen Williams,

Toriad o’r Cymro, 1970, yn nodi y dyfarnwyd ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau iddo, enwebiad ar gyfer gradd MA er anrhydedd, Y Brifysgol Agored, 1983, a Rhaglen deyrnged Barddas i'r Prifardd Rhydwen Williams (Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990) a luniwyd gan J. Gwyn Griffiths.

Adolygiadau o lyfrau,

Torion o'i adolygiadau, [1943]-[1987], a gyhoeddwyd mewn papurau fel y South Wales Evening Post, Y Faner, Y Ddraig Goch, Seren Cymru, ynghyd â llawer mewn teipysgrif.

Results 1 to 20 of 81