Dangos 84 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Glyn M. Ashton, Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adolygiad ac erthygl

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o adolygiad llyfr yn ymwneud â Robert Roberts, Clynnog-fawr; teipysgrif o ddau gywydd gan Guto'r Glyn; drafft o'r erthygl 'Trends in Welsh Literature, 1945-1970'; a llythyr gan y Parch H. Ballard yn ymwneud â chyhoeddi'r erthygl honno mewn cyfrol o erthyglau.

Anterliwtiau Twm o'r Nant

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o olygiad Glyn M. Ashton o Anterliwtiau Twm o'r Nant, sef Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd.

'Bard', drama gan Dedwydd Jones ("This edition is the author's original working script, submitted as commissioned, for the opening production ...,

'Bard', drama gan Dedwydd Jones ("This edition is the author's original working script, submitted as commissioned, for the opening production of the Sherman Theatre, University College, Cardiff"). Ceir nodyn yn llaw'r awdur 'For Dr Glyn Ashton, with deepest thanks for all your help and kind advice', 1972.

Carolau a rhestr ddarllen

Mae'r ffeil hon yn cynnwys copïau llaw o lawysgrifau NLW a llawysgrifau eraill, yn cynnwys carolau. Yn rhan o'r ffeil hefyd mae bwndel o gardiau mynegai yn dwyn y teitl 'Darllen Cyffredinol'.

Clywais...

Mae'r ffeil hon yn cynnwys penodau ynglŷn ag areithwyr neu siaradwyr cyhoeddus Cymru, megis Gunstone Jones, T.J. Morgan, Harri Gwynn a G.J. Williams.

'Cyfeillion'

Mae'r ffeil hon yn cynnwys sgript drama deledu wedi'i hamgáu wrth lythyr oddi wrth y BBC yn gwrthod ei chomisiynu.

Cynnyrch creadigol

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o nofelau, straeon byrion a dramâu, ynghyd â rhyddiaith a cherddi amrywiol.

Dehongli breuddwydion

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llyfr nodiadau a nodiadau eraill mewn Cymraeg, Almaeneg, a Saesneg yn ymdrin â dehongli breuddwydion, ynghyd â chopïau o destunau llawysgrif a rhestrau o fotifau breuddwydion. Yn rhan o'r ffeil ceir llyfr Almaeneg Sonderabruck aus dem..., 1910. Darlledodd Glyn M. Ashton sgwrs radio o'r enw 'Dehongli Breuddwydion', Rhagfyr 1954.

Canlyniadau 1 i 20 o 84