- A9/6
- File
- 1955-1958
Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1955-1958, yn ymwneud â gosod a gwresogi'r festri ar gyfer clinig allanol Ysbyty Dewi Sant, rhai ohonynt yn cyfeirio at broblem gordwymo a'r niwed a achoswyd i'r organ. Ymhlith y gohebwyr mae swyddogion capel Berea, aelodau pwyllgor rheoli ysbyty'r Carnarvon and Denbigh a chwmni J. W. Walker & Sons, gwneuthurwyr organau. Ceir hefyd gopi o gytundeb, 3 Medi 1956, rhwng ymddiriedolwyr capel Berea a'r Gweinidog Iechyd ynghylch gosod yr ysgoldy.