Showing 56 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau T. J. Morgan, file Welsh
Print preview View:

Ann Griffiths

Pamffled cyhoeddedig E. Griffiths, 'Emynau a Llythyrau Ann Griffiths', (Caernarfon, 1903) ac anerchiad ar Ann Griffiths, heb ei ddyddio.

Annie Davies

Cyfrol yn cynnwys yr enw Annie Davies, Abercanaid, yn cynnwys toriadau papur newydd, 1892-1928 ac heb ddyddiad.

Cerddi rhydd

Cyfieithiadau i'r Gymraeg o gerdd yr un gan Andrew Marvell, Robert Herrick a John Donne, heb eu dyddio.

Cyfrol amrywiol

Cyfrol o gyfrifon, 1891-1903. Defnyddiwyd y gyfrol hefyd fel llyfr lloffion ar gyfer dau gasgliad o doriadau papur newydd: Y Darian, c. 1916; a thoriadau gan fwyaf o ryseitiau coginio, heb eu dyddio.

Cyhoeddiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau rhydd o erthyglau a gyhoeddwyd yn bennaf yn y Dysgedydd, Y Diwygiwr a Cennad Hedd, 1896-1931, a heb ddyddiad.

Darlithiau Bala Bangor

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a phapurau rhydd o ddarlithiau a draddodwyd yng Ngholeg Bala Bangor, heb eu dyddio.

Evan Davies

Dwy gyfrol gyda'r enw Evan Davies ynddynt, un ohonynt yn cynnwys cerddi ac ysgrifau llawysgrif yn ogystal รข thoriadau papur newydd. Mae'r rhan fwyaf o'r toriadau heb eu dyddio, ond mewn un gyfrol ceir rhai dyddiadau rhwng 1863 a 1934, ac yn y gyfrol arall ceir rhai dyddiadau rhwng 1889 a 1890.

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a chardiau post, 1923-1926, a rhai heb ddyddiadau arnynt.

Results 1 to 20 of 56