Dangos 81 canlyniad

Disgrifiad archifol
Archif Y Faner
Rhagolwg argraffu Gweld:

Adroddiadau a thaflenni

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau, llyfrynnau, a thaflenni yn ymwneud yn bennaf â phynciau a oedd yn berthnasol i erthyglau Y Faner, 1986-1992.

Archif Y Faner

  • GB 0210 FANER
  • fonds
  • 1986-1992

Mae'r fonds yn cynnwys papurau, 1986-1992, a grynhowyd gan Luned Meredith a David Meredith fel perchnogion Y Faner, gan gynnwys gohebiaeth a datganiadau i'r wasg; erthyglau drafft a chynnyrch cyffredinol y cylchgrawn ac, yn arbennig felly, casgliad cyflawn o'r holl gynnyrch a ddefnyddiwyd wrth gysodi pob rhifyn o Chwefror 1992 hyd at y rhifyn olaf yn Ebrill 1992; ceir hefyd bapurau gweinyddol Y Faner, yn cynnwys, gohebiaeth yn ymwneud â diwedd y cylchgrawn, llyfrau nodiadau'r golygydd a chymhorthion golygyddol; rhai cofnodion ariannol, a mynegai cyffredinol i gyfranwyr ac i'r pynciau a drafodwyd ganddynt yn Y Faner, 1987-1992.

Meredith, David

Bananas

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau ryseitiau, adroddiadau, taflenni a chylchgronau yn ymwneud â bananas, 1986-1991.

Canolfan dechnolegol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiadau a llythyrau yn bennaf yn ymwneud â sefydlu canolfan dechnolegol yng Nghymru, 1986-1989.

Cerddi

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a anfonwyd fel cyfraniadau i'r Faner gan amryw o feirdd, 1988-1991.

Cynnyrch cyffredinol 1986-1992

Mae'r ffeil hon yn cynnwys cerddi, adolygiadau, llythyrau ac erthyglau a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu rhifynnau o'r Faner, 1986-1992. Ceir yn y ffeil hefyd restrau bras o gynnwys un deg saith o'r rhifynnau.

Cynnyrch rhifynnau

Mae'r gyfres yn cynnwys y cynnyrch a ddefnyddiwyd i gysodi rhifynnau o'r Faner, yn enwedig rhifynnau o Chwefror 1992 hyd at Ebrill 1992.

Canlyniadau 1 i 20 o 81