Showing 53 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry file Welsh
Print preview View:

Syniadau ar gyfer gweithiau newydd,

Syniadau ar gyfer gweithiau newydd, [1985]-[1991], gan gynnwys amlinelliad o ddrama roedd Gwenlyn Parry yng nghanol ei hysgrifennu pan bu farw, yn dwyn y teitl Vera Lynn a'n Nhad.

The District Nurse,

Sgript pennod 10 ac amlinelliad o benodau 4 a 5, a ysgrifennwyd gan Gwenlyn Parry, [1980x1984], o gyfres ddrama Tony Holland a Julia Smith, The District Nurse.

The Young Mr Burton,

Copi o stori yn seiliedig ar hanes Richard Burton yn fachgen ifanc yn dwyn y teitl The Young Mr Burton, [1975x1990].

Torion o'r wasg,

Torion o'r wasg, [1978]-[1991], gan gynnwys adolygiadau o ddramâu teledu a llwyfan Gwenlyn Parry ac erthyglau amrywiol yn ymwneud â'i waith.

Tresarn,

Sgript llawysgrif o bennod 20 o'r gyfres ddrama Tresarn, 1972, gan Huw Lloyd Edwards.

Edwards, Huw Lloyd, 1916-1975.

Tŷ ar y Tywod,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Tŷ ar y Tywod, [1968]-1977, gan gynnwys drafftiau teipysgrif a chopi terfynol o'r gwaith, [1968]; copi o'r cyfieithiad Saesneg gan Rhydderch Jones a ddefnyddiwyd gan Orbit Theatre yn 1977; barn myfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin, am y ddrama; amlinelliad o gynnwys y ddrama; a nodiadau llawysgrif ar sut i lwyfannu'r cynhyrchiad.

Jones, Rhydderch, d. 1987

Undebaeth,

Sgript drama yn dwyn y teitlau 'Undebaeth' a 'Nid Oes Gennym Ddim i'w Golli Ond ein Cadwynau', [1966x1990].

William Jones,

Sgriptiau o addasiad teledu Gwenlyn Parry o nofel T. Rowland Hughes, William Jones, penodau 2, 5, 6 a 7; ynghyd ag amlinelliad o gynnwys y gyfres, a llungopi o fersiwn Saesneg o'r nofel, [1980x1985].

Y Ffin,

Llyfr nodiadau, [1973], yn cynnwys drafft anghyflawn (dechrau yr act gyntaf yn unig) o'r ddrama Y Ffin, ynghyd â braslun o'r set.

Y Tŵr,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Y Tŵr, [1978], gan gynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif; llyfrau nodiadau, yn cynnwys drafftiau bras; crynodeb Saesneg o gynnwys y ddrama; adolygiadau o'r ddrama; a braslun o'r set.

Yr Academi Gymreig,

Papurau'n ymwneud â'r Academi Gymreig, 1967-[1987], gan gynnwys llyfr cyfrifon yr Academi Gymreig yn ystod cyfnod trysoraeth Bedwyr L. Jones, 1967-1972; cerdyn aelodaeth Gwenlyn Parry; a chartŵn yn darlunio Rhydderch Jones, yng nghwmni Gwenlyn Parry, ymysg eraill, yn cael ei dderbyn yn gymrodor.

Results 41 to 53 of 53