Dangos 49 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Leslie Richards Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth gyffredinol, 1937-89 [llythyrau a chardiau wedi'u trefnu, hyd y bo modd, yn ôl dyddiad]. Ceir yn eu plith lythyrau ...,

Gohebiaeth gyffredinol, 1937-89 [llythyrau a chardiau wedi'u trefnu, hyd y bo modd, yn ôl dyddiad]. Ceir yn eu plith lythyrau cyfnod coleg, 1937-40 (rhifau 44-79; cf rhif 41/1-33). Mae'r gohebwyr yn cynnwys John Eilian, 1951-4 (rhifau 138-9, 148, 150-1, 153, 156); Gwynfor Evans, 1964-77 (rhifau 368, 473, 490, 528, 643); Garfield H. Hughes, 1945-64 (rhifau 83, 104, 167-8, 210, 370); T. Gwynn Jones, 1939 (rhif 58); yr Athro Thomas Jones, 1952-65 (rhifau 145, 169, 187, 335, 381); Henry Lewis, 1939-67 (rhifau 59, 74, 343, 372, 416, 452); Dyfnallt Morgan, 1956-76 (rhifau 183, 186, 209, 240-1, 251, 375, 462, 583, 602, 619, 622-3); Thomas Parry, 1947-61 (rhifau 119-20, 131, 268); D. J. Williams, Abergwaun, 1965-6 (rhifau 395, 438); T. H. Parry-Williams, 1939-70 (rhifau 69-71, 103, 324, 373, 538).

Erthyglau a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru fel a ganlyn: (21) 'Dylan Thomas', 2 Meh 1954; (22) 'Cystadlu', 18 ...,

Erthyglau a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru fel a ganlyn: (21) 'Dylan Thomas', 2 Meh 1954; (22) 'Cystadlu', 18 Awst 1954; (23) 'Ailarfogi'r Almaen', 20 Ebrill 1955; (24) 'Nofelau Richard Vaughan', 1 Meh 1955; (25) 'A yw hi'n talu', 7 Awst 1957, ynghyd â thoriad papur o'r erthygl [am yr Eisteddfod Genedlaethol].

Copïau teipysgrif, â mân gywiriadau llawysgrif, o'r rhan fwyaf o'r cerddi [o dan y pennawd gwreiddiol 'Cerddi'r Hwyr'] a gasglwyd ...,

Copïau teipysgrif, â mân gywiriadau llawysgrif, o'r rhan fwyaf o'r cerddi [o dan y pennawd gwreiddiol 'Cerddi'r Hwyr'] a gasglwyd yn Cerddi'r Cyfnos (Gwasg Gee, 1986). Yr unig gerddi nas ceir yw 'Awen Llawenydd'; 'Cymry'; 'Ein Tad'; 'Côr Telyn Teilo'; 'I Ysgol Teilo Sant'; 'I blentyn bychan'; 'Cwn'; 'Nadolig'; a'r englynion i 'Hywel Llewelyn', 'Gwenllian Mair' a 'William Glyn'.

Canlyniadau 21 i 40 o 49