Showing 51 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr), Welsh
Print preview View:

Gohebiaeth ag Undeb Cymru Fydd,

Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen ac Undeb Cymru Fydd, 1966-1969, gan gynnwys llythyrau yn trafod sefydlu Merched y Wawr; manylion am gyfarfodydd Cyngor Undeb Cymru Fydd a chopïau o gofnodion y cyfarfodydd; a chopïau o Llythyr Ceridwen (rhifynnau 26-28), 1966-1968, cylchgrawn Pwyllgor Merched Undeb Cymru Fydd.

Undeb Cymru Fydd.

Gohebiaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru,

Gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a swyddogion Cyngor Celfyddydau Cymru ynglŷn â chylchgrawn Y Wawr, 1968-1975, gan gynnwys llythyrau yn trafod grantiau amrywiol ar gyfer gwella clawr Y Wawr. Ymysg y gohebwyr mae Meic Stephens, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Arts Council of Wales.

Datganiadau a llythyrau i'r wasg,

Datganiadau a llythyrau i'r wasg, 1967-[1973], a luniwyd gan Zonia M. Bowen yn nyddiau cynnar Merched y Wawr, gan gynnwys llythyrau'n ymwneud â'r anghydfod rhwng merched Y Parc a Sefydliad y Merched a arweiniodd at sefydlu Merched y Wawr, ac adroddiadau ynglŷn â thwf y Mudiad yn ystod y blynyddoedd wedi hyn. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.

Crynodebau o hanes sefydlu'r Mudiad,

Crynodebau o hanes sefydlu Merched y Wawr gan Zonia M. Bowen, 1975-2004, gan gynnwys gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a C. W. Hulin o'r Mid Wales News and Pictures, 1975, yn trafod hanes sefydlu'r Mudiad a'i hanes personol hi ei hun; copi o'r gwaith Y Dyddiau Cynnar (Bala, 1977), gan Zonia M. Bowen; a chrynodebau amrywiol eraill yn ymwneud â'i chyfnod fel aelod o Ferched y Wawr.

Cofnodion y Pwyllgor Gwaith,

Crynodebau o gofnodion Pwyllgor Gwaith Merched y Wawr, 1969-1975, gan gynnwys yr hyn a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd, megis ethol swyddogion, awgrymiadau ynglŷn â gweithgareddau posibl y Mudiad, a materion gweinyddol ac ariannol cyffredinol. Yn wreiddiol y swyddogion cenedlaethol oedd Pwyllgor Gwaith y Mudiad, ond fe'i ehangwyd yn ddiweddarach i gynnwys cynrychiolwyr o'r pwyllgorau sirol.

Cofnodion y Cyngor Cenedlaethol,

Crynodebau o gofnodion Cyngor Cenedlaethol Merched y Wawr, 1967-1975, gan gynnwys manylion am yr hyn a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd, megis ethol swyddogion newydd, awgrymiadau ynglŷn â gweithgareddau posibl y Mudiad, a materion gweinyddol ac ariannol cyffredinol.

Results 41 to 51 of 51