Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 43 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr), ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ymddiswyddiad Zonia M. Bowen,

Papurau, 1965-2007, a gasglwyd ynghyd gan Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r anghydfod ynghylch lle crefydd yng nghyfarfodydd swyddogol Merched y Wawr a arweiniodd at ymddiswyddiad Zonia M. Bowen fel Llywydd Anrhydeddus Cenedlaethol ac aelod o'r Mudiad yn 1975. Mae'r ffeil yn cynnwys crynodeb o'r hanes gan Zonia M. Bowen, 2007; teipysgrif sgwrs gyda Zonia M. Bowen yn trafod yr anghydfod ar gyfer prosiect hanes llafar, 2001; gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen a'r Cyngor Cenedlaethol yn trafod y mater; copi o'r llythyr ymddiswyddo, 1975; a llythyrau a datganiadau i'r wasg yn esbonio ochr Zonia M. Bowen o'r ddadl.

Teithiau tramor,

Papurau ariannol yn ymwneud â theithiau tramor Merched y Wawr, 1972-1975, gan gynnwys llyfr banc, cyfrifon a rhai llythyrau yn ymwneud â theithiau'r Mudiad i Lydaw, 1972 ac 1973; anfonebau taith Paris, Amsterdam a Brwsel, 1974; ac ambell lythyr yn sôn am y daith i'r Undeb Sofietaidd, 1975. Zonia M. Bowen oedd yn gyfrifol am drefnu'r teithiau yma ar ran y Mudiad.

Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr,

Papurau'n ymwneud â Sefydliad y Merched Y Parc a sefydlu Merched y Wawr, 1965-1967, gan gynnwys llyfr dathliad Sefydliad y Merched rhwng 1915 ac 1965, 1965; adroddiad blynyddol Sefydliad y Merched, 1965; papurau'n ymwneud â chyfarfodydd Sefydliad y Merched Y Parc a Sir Feirionnydd, 1965-1966; a phapurau, yn bennaf gohebiaeth rhwng Zonia M. Bowen ac unigolion amrywiol, ynglŷn â'r anghydfod rhwng Sefydliad y Merched a changen Y Parc a arweiniodd at sefydlu Merched y Wawr, 1967. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.

Llythyrau'n ymwneud â'r cylchgrawn Y Wawr,

Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud â'r cylchgrawn Y Wawr, 1967-1975, gan gynnwys gohebiaeth yn trafod yr awgrym i wneud y cylchgrawn yn atodiad i Barn; llythyrau ynglŷn â chyfraniadau i'r cylchgrawn; archebion ar gyfer copïau; a phapurau yn ymwneud â gwerthiant a chostau dosbarthu Y Wawr. Ceir rhestr o gynnwys y ffeil o fewn y ffolder.

Llythyrau'n ymwneud ag ysgolion meithrin,

Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud ag ysgolion meithrin, 1969-1977, gan gynnwys rhai oddi wrth Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg yn trafod ymgyrch i agor a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg; cyfrif o gyfraniadau Merched y Wawr i'r achos, 1972-1973; cyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i gychwyn ysgol neu gylch meithrin; ac adroddiad blynyddol a chopi o bolisi gan Mudiad Ysgolion Meithrin, 1976-1977.

Mudiad Ysgolion Meithrin.

Canlyniadau 1 i 20 o 43