Showing 67 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Islwyn Ffowc Elis Welsh
Print preview View:

Nofelau

Mae'r gyfres yn cynnwys y drafftiau llawysgrif cyntaf o Cysgod y Cryman, Ffenestri Tua'r Gwyll, Yn ôl i Leifior, Blas y Cynfyd, a Tabyrddau'r Babongo, 1953-1961, a chopi teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg, 1989.

Papurau amrywiol

Llythyr printiedig, 1954, wrth iddo ffarwelio â’r eglwys yn Llanfair Caereinion, sgwrs am ‘Tegla’ ar gyfer Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1980, ynghyd â manylion am ei yrfa a’i gyhoeddiadau, [1983] a llungopi o bapur bro Nene, Ebrill 2000, yn cofnodi 'Cinio llenyddol efo Islwyn Ffowc Elis'.

Papurau gwleidyddol

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau am Blaid Cymru, 1966-1969, yn arbennig papurau'n ymwneud ag etholiadau ac â'r arwisgiad, a gohebiaeth â Gwynfor Evans, Aelod Seneddol Caerfyrddin, 1966-1970; 1974-1979.

Evans, Gwynfor

Papurau Islwyn Ffowc Elis

  • GB 0210 ISFFEL
  • Fonds
  • 1923-2010 (1940-1970 yn bennaf) (crynhowyd 1940-1994)

Mae'r fonds yn cynnwys drafft cyntaf Cysgod Y Cryman, a rhai o nofelau eraill Islwyn Ffowc Elis, 1953-1989, drafftiau llawysgrif o ysgrifau a gynhwysir yn Cyn Oeri'r Gwaed, a llyfrau nodiadau yn cynnwys barddoniaeth, caneuon, storïau, dramâu, nodiadau diwinyddol, sgriptiau radio, erthyglau a gwaith celf, [c.1940]-[c.1970]. -- Ceir hefyd nifer o lythyrau oddi wrth Robin Williams, Kate Roberts, E. Tegla Davies, Dyddgu Owen, D. Tecwyn Lloyd ac eraill, 1949-1994, a phapurau am Blaid Cymru yn cynnwys gohebiaeth â Gwynfor Evans, 1966-1969. Papurau ychwanegol, 1937-2010, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts ac R. S. Thomas, sgriptiau a phregethau, ynghyd a chyfres o ddeg englyn a luniwyd iddo gan Alan Llwyd ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain mlwydd oed (Ionawr 2017).

Elis, Islwyn Ffowc

Pregethau

Pregethau a draddodwyd ganddo, [1964]-[1997]. Cofnodir enw'r eglwys ar y bregeth, yn arbennig Eglwys Shiloh, Llanbedr Pont Steffan.

Printiedig

Copi o'r Arloeswr, Gaeaf 1959, yn cynnwys y gerdd 'Perthyn' ganddo a'i drosiad o Efengyl Mathew i Gymraeg diweddar (1961).

Rhyddiaith

Mae'r gyfres yn cynnwys rhyddiaith gan Islwyn Ffowc Elis, megis drafftiau anghyflawn o dair stori, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio.

'Salvator Jones'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif drama o'r enw 'Salvator Jones', (hanes yr hynod Salvator Jones, proffwyd y dyfodol). Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer caneuon ac unawdau sy'n rhan o'r ddrama.

Sgriptiau

Sgriptiau'r gyfres deledu ‘Rhai yn fugeiliaid’,1962; sgript radio ‘Y gôt fawr’ a droswyd o’r Eidaleg ganddo, 1963; ‘Gwanwyn diweddar’, drama gyfres ar gyfer y teledu, 1963; a 'Bwystfil y ddaear', 1965, ynghyd â sgript 'Y silff lyfrau' yn cynnwys adolygiad o Yn ôl i Leifior, 1957 a dwy ffars 'Gŵr Mrs Jones' a 'Y Golofn danllyd'.

Sgriptiau radio

Mae'r ffeil yn cynnwys sgriptiau radio'r BBC, 1960-1963, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio, erthyglau, a deunydd amrywiol.

Sgriptiau radio

Adysgrifiad o’r drafodaeth rhwng Eirian Davies ac Islwyn Ffowc Elis a recordiwyd yn 1971; tair sgript ‘Dylanwadau’, 1992 ar gyfer y gyfres o sgyrsiau radio ‘Sglein’, 1993 (y gyntaf yn eisiau) a 'Rhwng Gŵyl a Gwaith'.

Stori a nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys stori anghyflawn, dyddiadur dychmygol, cerddoriaeth mewn nodiant sol-ffa, nodiadau ar grefyddau Groeg a Rhufain, ac erthygl ar 'Yr Ymerodraeth Olau, apologia'r mabinogiaid newydd'.

Storïau byrion

Mae'r ffeil yn cynnwys storïau byrion di-deitl. Mae un stori yn anghyflawn a cheir pymtheg dalen rhydd yn ychwanegol at y llyfrau.

Results 41 to 60 of 67