Dangos 67 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Islwyn Ffowc Elis
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth

Llythrau, 1964-1995, oddi wrth lenorion amlwg a llythyrau'n ei longyfarch ar ei anrhydeddau academaidd.

Gohebiaeth Gwasg Gomer, 1985-1987

Mae'r ffeil yn cynnwys wyth llythyr, yn bennaf gohebiaeth rhwng Islwyn Ffowc Elis a Gwasg Gomer. Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer 'Awdl Goffa R.Williams Parry ar Pennant'.

Gomer Llandysul Printer

'Huws & Co.'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi teipysgrif o ddrama gan Islwyn Ffowc Elis o'r enw 'Huws & Co.' a ddarlledwyd gan BBC Cymru ar 19eg Mehefin 1954. Mae'r dudalen glawr yn rhestri enwau'r actorion a'r cantorion.

Llyfrau brasluniau

Mae'r ffeil yn cynnwys lluniau o gymeriadau a golygfeydd, ac un llyfr o fapiau o Ogledd Cymru. Ceir hefyd tri darn o gerdd a darn o ryddiaith.

Llyfrau nodiadau crefyddol

Mae'r ffeil yn cynnwys chwech llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau ar bynciau crefyddol yn gyffredinol, nodiadau ar Fwdïaeth ac Islam, nodiadau pregethau, ac erthyglau ar faterion Eglwysig.

Llyfrau nodiadau cymysg

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Cyn Oeri'r Gwaed (1952), storïau, nodiadau ar bynciau crefyddol, erthyglau gwleidyddol a chaneuon.

Llyfrau printiedig

Mae'r ffeil yn cynnwys wyth o lyfrau a phamffledi printiedig amrywiol, 1923-1963, a thorion papur newydd, 1988.

Llythyrau 1964-1983

Llythyrau, 1964-1983, oddi wrth lenorion blaenllaw, gan gynnwys grŵp o lythyrau oddi wrth Kate Roberts, 1964-1981.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau 1977-1991

Llythyrau, 1977-1991, gan gynnwys llythyrau oddi wrth yr Athro A. Shisha-Halevy, Jerwsalem, ac oddi wrth Svetoslav Kolev, Sofia, 1980, a gyfieithodd stori fer 'Y polyn' i'r Fwlgareg ac a gyhoeddwyd mewn papur dyddiol yn 1977 sy'n gynwysedig.

Llythyrau anrhydeddau

Llythyrau yn ymwneud â'r radd DLitt (Prifysgol Cymru) er anrhydedd a ddyfarnwyd iddo yn 1993, ei ethol yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru - Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn 1994 a Phrifysgol Cymru Bangor yn 1995, ynghyd â thystysgrifau a gyflwynwyd iddo yn y seremonïau.

Llythyrau A-Z

Mae'r ffeil yn cynnwys hanner cant a phump o lythyrau, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Sir John Cecil-Williams (2), Hafina Clwyd (1), Goronwy Daniel (1), Sephora Davies (1), Y Parch. G. A. Edwards (4), Huw [Ethall] (3), Yr Athro D. Simon Evans (1), Gwynfor Evans (1), James Hanley (1), Lancelot Hogben (1) Cledwyn Hughes (1), Augustus John (1), Alun Jones (1), Yr Athro Bedwyr Lewis Jones (4), Bobi Jones (1), Gwenallt, (1), Gwenan Jones (3), Gwyn [Erfyl Jones] (3), Ceri Lewis (1), Hywel Lewis (1), Saunders Lewis (2), David Lloyd (1), J. R. Owen (6), Syr Thomas Parry (3), Marged [Pritchard] (1), Melville Richards (1), R. S. Thomas (1), Elfed Thomas (1), Huw Wheldon (1), D. J. Williams (1), Gerwyn Williams (1) a T. H. Parry Williams (1).

Cecil-Williams, John Lias Cecil, Sir, 1892-1964

Llythyrau D. Tecwyn Lloyd

Mae'r ffeil yn cynnwys naw llythyr oddi wrth D. Tecwyn Lloyd at Islwyn Ffowc Elis. Mae un o'r llythyrau yn anghyflawn.

Lloyd, D. Tecwyn (David Tecwyn)

Llythyrau E. Tegla Davies

Mae'r ffeil yn cynnwys dau lythyr ar hugain oddi wrth E. Tegla Davies at Islwyn Ffowc Elis. Mae dau o'r llythyrau cynharaf, 1953, yn gopïau a wnaed gan Islwyn Ffowc Elis o'r llythyrau gwreiddiol.

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967

Llythyrau Kate Roberts

Mae'r ffeil yn cynnwys un ar ddeg llythyr oddi wrth Kate Roberts at Islwyn Ffowc Elis yn trafod Tywyll Heno, a beirniadaeth cystadleuaeth y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor, 1961, ymhlith materion eraill.

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau Robin Williams

Mae'r ffeil yn cynnwys pum llythyr a deugain oddi wrth Robin Williams, cyfaill i Islwyn Ffowc Elis, a phum ffotograff o Islwyn Ffowc Elis, Robin Williams, Y Parch. Huw Jones (Bala) ac eraill. Mae'r awdur yn ysgrifennu llythyrau digrif ac yn defnyddio ffugenwau a chyfeiriadau dychmygol yn ei lythyrau.

Williams, Robin, 1924-

Llythyrau, [1965]-[1993]

Llythyrau, [1965]-[1993], yn ei longyfrach ar y ddoethuriaeth er anrhydedd a ddyfarnwyd iddo yn 1993 ar achlysur canmlwyddiant y Brifysgol, llwyddiant y gyfres 'Lleifior', ynghyd â llungopi o lythyr a anfonodd at Angharad Tomos yn 1989 ar grefft y nofel.

Nodiadau darlithoedd

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau ar gyfer darlithoedd ar ysgrifennu creadigol, y nofel, y stori hir, ac 'Awduron at iws gwlad', yn ystod cyfnod Islwyn Ffowc Elis fel darlithydd a darllenydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Canlyniadau 21 i 40 o 67