Showing 29 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Harri Gwynn, file Welsh
Print preview View:

'O Sanctaidd Swynwyr',

Copi printiedig o'i gyfaddasiad o 'Blest Pair of Sirens', geiriau gan C. Hubert H. Parry, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, gyda llythyr, 1955, oddi wrth Novello & Company, yn ymwneud â'r amodau a chytundeb, 1956, ynghyd â chopi o'r fersiwn gwreiddiol, 1951.

Personalia,

Llyfr adroddiadau Harri Gwynn Jones tra'n ddisgybl yn Ysgol Sir y Bermo, 1924-1930, yn cynnwys tystysgrifau addysg, 1928 a 1930, a thystlythyrau, 1936-1948. Ceir hefyd ei gardiau aelodaeth i wahanol gymdeithasau yn y Brifysgol ym Mangor, 1934-1940; tystysgrifau am ennill mewn eisteddfodau i fyfyrwyr, 1931-1932, 1934, a'i bryddest fuddugol 'Y Wledd yng Ngwalas', Caerdydd, 1932; rhestr o'r myfyrwyr a ddewiswyd i fynychu cynhadledd ryngwladol yn Ffrainc yn 1935 gan gynnwys Harri Gwynn; gwahanlithoedd o'i erthygl 'The Llandudno copper mines in the eighteenth century', Bulletin of the Board of Celtic Studies, Tachwedd 1939; Journal of the Royal Society of Arts, Tachwedd 1939, yn cynnwys ei ddarlith 'The Charcoal-Iron Industry'; a 'Pwy ydoedd "Shon Gwialan"?', [Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1940].

'Rhwng Godro a Gwely',

Teipysgrifau a thorion, 1952-1959, o'i ysgrifau yn y golofn 'Rhwng Godro a Gwely' a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn wreiddiol, ac fel casgliad gyda'r un teitl wedi'u golygu gan Eirwen Gwynn yn 1994.

Sgriptiau,

Sgriptiau a luniwyd ganddo i'r BBC yn bennaf neu y bu'n cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys 'Troi at y tir', 1957; 'Yn hyfrydwch y fro. Y fro rhwng môr a mynydd', 1958; 'Gwŷr Llên', 1960 (mae copi o'r sgript hon hefyd yn Adran Llawysgrifau Prifysgol Cymru, Bangor (15393)); 'Y silff lyfrau', 1962 (yr adolygydd oedd Harri Gwynn); 'Cywain atgof', 1964, y bu'n cymryd rhan yn y rhaglen; ynghyd â 'Wel s'ma'i?', rhaglen ysgafn gan Fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor, 1936; a'i gyfraniad at raglen '[Rhwng] Gŵyl a Gwaith', Hydref 1979.

Sgyrsiau radio,

Ysgrif 'Er cof am Jeroboam a'i deulu' yn Cylchlythyr BBC Cymru, Tachwedd 1973; drafftiau a theipysgrifau o'i gyfraniadau i 'Yn ôl y dydd', Ebrill, 8-11 Mai, a Rhagfyr 1979, Radio Cymru, a'i ysgrif 'Mw-mw, Me-me, Cwac-cwac', Pais, Ebrill 1980. Ceir hefyd gopi o Barn, Gorffennaf/Awst 1993, yn cynnwys erthygl D. G. Lloyd Hughes 'Y cam arall â Harri Gwynn' a llythyr oddi wrtho, 1997, yn ymwneud hefyd â chyfnod Harri Gwynn yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955.

Teyrngedau,

Torion o'r wasg, 1985-1986, 1992, yn cynnwys teyrngedau a luniwyd gan gyfeillion Harri Gwynn. Ceir torion hefyd yn ymwneud â'r digwyddiad a drefnwyd i'w goffáu gan yr Academi Gymreig a rhaglen y diwrnod, 11 Hydref 1986, ynghyd â llungopi o'r Ddinas, Awst 1955, yn cynnwys portread ohono a chopi o Yr Ŵyl, 1992 (Cylchgrawn Croeso i Brifwyl Aberystwyth, Ceredigion), yn cynnwys erthygl 'Rhyw, sgandal a sbeit' yn ymwneud â helynt Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952.

'Y Creadur' yn Saesneg,

Cyfieithiad y Cyrnol R. C. Ruck o bryddest Harri Gwynn 'Y Creadur' i'r Saesneg, [1952], a gyhoeddwyd yn Dock Leaves, Gaeaf 1952 (drafft a fersiwn diwygiedig). [Ceir cyfieithiad Robert Minhinnick ohoni yn The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry : 20th-century Welsh-language poetry in translation (Tarset, 2003)]. Ymhlith y cerddi eraill mae 'Gwalia' a gyfansoddodd yn arbennig yn 1937 i Eirwen Gwynn. Ceir hefyd ei bryddest anfuddugol 'O'r Dwyrain', Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948, a'i bryddest radio 'Yr Ysgall a'r Drain', 1952 [a gyhoeddwyd yn Barddoniaeth Harri Gwynn yn 1954], ynghyd ag argraffiad arbennig o ddyfyniad o'i gerdd 'Pont', Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl a'r Cyffiniau 1985.

Ruck, R. C. (Richard Conyers), 1887-1973

'Y Llwybrau Gynt',

Ei atgofion 'Y Llwybrau Gynt' mewn teipysgrif o'r cyfnod cynnar nes iddo symud i Dyddyn Rhuddallt, [1972], ar gyfer rhaglen radio mewn cyfres o'r un enw. Cafodd rhain eu cynnwys gan Eirwen Gwynn yn ei hunangofiant Ni'n dau. Hanes dau gariad (Llandysul, 1999).

Results 21 to 29 of 29