Showing 26 results

Archival description
Papurau Erfyl Fychan file
Print preview View:

Llythyrau a phersonalia

Cyfrol ar gyfer arddangos cardiau Nadolig ond a ddefnyddiwyd ar gyfer cadw llythyrau a dogfennau pwysig yn ymwneud â'i yrfa academaidd a chyhoeddus. Ceir gwahoddiadau i ymweliadau brenhinol â Chymru, 1937, 1953, 1960; rhaglen cyhoeddi Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, 1960; rhaglen seremoni dadorchuddio cofeb Dewi Emrys ym Mhwllderi, 1961; a gwahoddiadau i fyrbrydau'r Eisteddfod Genedlaethol. -- Ceir hefyd bapurau'n perthyn i'w fab y Canon Geraint Vaughan-Jones yn y gyfrol, gan gynnwys rhaglen ordeinio neu gysegru Dr Barry Morgan yn Esgob Bangor, 1993; emynau a ysgrifennwyd gan Geraint Vaughan-Jones, 1982 a 1989, ar gyfer Gŵyl Eglwysi Tydecho; llythyrau, 1984, 1986, 1989, oddi wrth Cledan, Esgob Bangor, yn ymwneud â'i yrfa yn Esgobaeth Bangor; ynghyd â thorion o'r wasg, Blewyn Glas, Rhagfyr 1990, papur bro ardal Machynlleth, yn cynnwys erthygl 'Nabod cymeriad' am Geraint Vaughan-Jones; a thaflenni eraill a gasglwyd ganddo.

'Gwerslyfr y Delyn Deir-res'

'Gwerslyfr y Delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion') gydag ymarferion ac alawon i'r delyn, Llundain 1858, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel Manual or method of instruction for playing the Welsh harp : with explanatory remarks ... yn [1902]. Bu'r llawysgrif hon ym meddiant Nicholas Bennett, Trefeglwys, ac yna gyda pherthynas iddo N. Bennett Owen, Llanidloes. Fe'i rhoddwyd i Erfyl Fychan pan oedd yn ymchwilio ar gyfer ei draethawd MA yn 1933.

Roberts, Ellis, 1819-1873

Yr Orsedd

Cyfarwyddiadau seremonïau Gorsedd y Beirdd gan y Cofiadur Cynan mewn teipysgrif, [1935], ynghyd â chynllun Cylch yr Orsedd, 1960, a chopi printiedig o drefniadau'r Orsedd at Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd 1965.

Cynan, 1895-1970

Tysteb Erfyl Fychan

Llythyrau, 1967, oddi wrth aelodau'r Orsedd at Alun Ogwen [Williams] (ysgrifennydd aelodaeth) yn anfon rhoddion ariannol i ddiolch i Erfyl Fychan wrth iddo ymddeol fel Arwyddfardd wedi chwarter canrif o wasanaeth.

Llyfr 'testimonials' John Roberts

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, a ddaeth i feddiant Erfyl Fychan drwy fab y telynor, Charles Roberts ('Crythor Hafren') yn 1932, yn mynegi gwerthfawrogiad ei gynulleidfa, gan gynnwys J. Ceiriog Hughes, 1868, ac adroddiadau o'r wasg am gyngherddau'r teulu. Ceir hefyd adysgrif llawn, [1931], a wnaeth Erfyl Fychan o'r gyfrol hon sy'n cynnwys gwerthfawrogiad o ddoniau cerddorol 'Telynor Cymru' ac aelodau o'i deulu gan noddwyr.

Hughes, John Ceiriog, 1832-1887

Results 21 to 26 of 26