Dangos 32 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Erfyl Fychan
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau

Llythyrau, [1949]-[1963], gan gynnwys rhai oddi wrth y Fonesig Amy Parry-Williams, Brynallt (3), Mam o Nedd, Cynan, Telynores Rhondda (2), Caerwyn (3), J. Dyfnallt Owen, Trefîn (2), Syr John Cecil-Williams, D. Jacob Davies, Clement Davies, Gwilym R. Tilsley; ynghyd â mân bapurau gan gynnwys taflen, 1931, yn hysbysebu cyhoeddi llyfr Erfyl Fychan, Bywyd Cymdeithasol Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a 'Serch ifanc a huna' sef cyfieithiad Erfyl Fychan o eiriau Arthur Somerverell 'Young love lies sleeping', Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1960 (printiedig).

Parry-Williams, Amy, Lady, 1910-1988

Llyfrau nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys manylion am I. D. Hooson ar gyfer rhaglen deyrnged iddo, o bosib, a llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau hanesyddol am Powys ac adysgrif o 'Yr Hen Dyddynwr' gan 'Dewi Aeron' ar fesur Tri Thrawiad.

Llyfr 'testimonials' John Roberts

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, a ddaeth i feddiant Erfyl Fychan drwy fab y telynor, Charles Roberts ('Crythor Hafren') yn 1932, yn mynegi gwerthfawrogiad ei gynulleidfa, gan gynnwys J. Ceiriog Hughes, 1868, ac adroddiadau o'r wasg am gyngherddau'r teulu. Ceir hefyd adysgrif llawn, [1931], a wnaeth Erfyl Fychan o'r gyfrol hon sy'n cynnwys gwerthfawrogiad o ddoniau cerddorol 'Telynor Cymru' ac aelodau o'i deulu gan noddwyr.

Hughes, John Ceiriog, 1832-1887

'Hen faledau 1780-1890'

Baledi wedi'u casglu gan Erfyl Fychan, [1930], gan awduron megis 'Ywain Meirion', Abel Jones ('Y Bardd Crwst'), Richard Williams ('Bardd Gwagedd') a Richard Davies ('Bardd Nantglyn') ar destunau fel llofruddiaethau, damweiniau a thrychinebau. Ychwanegwyd nodiadau gan Erfyl Fychan mewn pensil am bwy oedd wedi canu'r faled. -- Ceir dalen rhydd gyda'r teitl 'Bibliography of Ballads composed by Owen Griffith (Ywain Meirion) compiled by Erfyl Fychan' ar ddechrau'r gyfrol a mynegai anorffenedig.

'Gwerslyfr y Delyn Deir-res'

'Gwerslyfr y Delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion') gydag ymarferion ac alawon i'r delyn, Llundain 1858, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel Manual or method of instruction for playing the Welsh harp : with explanatory remarks ... yn [1902]. Bu'r llawysgrif hon ym meddiant Nicholas Bennett, Trefeglwys, ac yna gyda pherthynas iddo N. Bennett Owen, Llanidloes. Fe'i rhoddwyd i Erfyl Fychan pan oedd yn ymchwilio ar gyfer ei draethawd MA yn 1933.

Roberts, Ellis, 1819-1873

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, 1924-1996, gan gynnwys rhai a anfonwyd at Erfyl Fychan a'i fab Geraint Vaughan-Jones, yn ymwneud â'u dyletswyddau proffesiynol, ynghyd â phersonalia.

Ernest Roberts

Dau lythyr oddi wrth Arthur S. Hollings, 1962, yn trafod hanes y teulu Roberts, ynghyd â thorion o'r wasg, 1962, a anfonwyd ganddo, yn ymwneud ag Ernest Roberts, mab John Roberts ('Telynor Cymru'), yn dathlu ei ben-blwydd yn gant yn ei gartref yn ardal Stratford-on-Avon; a chopi o raglen cyngerdd a berfformiwyd o flaen y Frenhines Victoria gan y teulu Roberts, 1889 (yr oedd Ernest Roberts yn un o'r perfformwyr).

Hollings, Arthur S.

Efrydiau Allanol

Llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau ar lenyddiaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer dosbarth Y Foel, 1933-1934; nodiadau ar fywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif, dosbarth tiwtorial Fourcrosses, 1965-1966, a maes llafur ar gyfer y cwrs 'Llenyddiaeth a bywyd cymdeithasol Cymru yn y ddeunawfed ganrif', 1967-1968; a maes llafur a rhestr lyfrau ar gyfer dosbarth Fourcrosses, 1966-1967.

'Cell gymysg'

'Cell gymysg' sef casgliad o adysgrifau gan Erfyl Fychan a ddechreuodd yn 1929, gan gynnwys anterliwt gan Ellis y Cowper a nifer o englynion gan T. Gwynn Jones. Ceir hefyd enghreifftiau o waith Erfyl Fychan ei hun gan gynnwys 'Y Di-wifr'; penillion 'Dadl ynghylch Neuadd y Sir ym Maldwyn 1930'; 'Noswyl J. Breese Davies, Dinas Mawddwy, hunodd 4/x/40'; englyn, 'Eryri'; penillion a luniodd ar gyfer agoriad Gŵyl Gerdd Dant Cymru yn Y Felinheli, 1947, a phenillion cyfarch i D. R. Hughes ('Myfyr Eifion') ar achlysur cyflwyno Tysteb Genedlaethol iddo yng Nghaerdydd yn 1948; 'Carol y Byd Dyrus', 1962, a chyfarchion pen-blwydd i Cynan yn 70, 1965. Ceir hefyd ychwanegiadau gan [ei fab Geraint Vaughan-Jones] a phapurau rhydd yn ei law.

Canlyniadau 21 i 32 o 32