- 3/4.
- ffeil
- 1996.
Polisi yswiriant dyledion ('liability insurance'), gyda nodiadau, a gohebiaeth yn ei gylch rhwng y Gymdeithas a'r gwerthwyr.
Polisi yswiriant dyledion ('liability insurance'), gyda nodiadau, a gohebiaeth yn ei gylch rhwng y Gymdeithas a'r gwerthwyr.
Gohebiaeth ymysg swyddogion y Gymdeithas, a rhwng y Gymdeithas, masnachwyr, gweision sifil, cyrff cyhoeddus, gwleidyddion, papurau newydd, a grwpiau ac unigolion yr oeddynt yn erbyn melinau gwynt, ynghylch prosiectau arfaethedig ynni gwynt yng Nghymru, gyda phapurau perthynol yn cynnwys datganiadau, ceisiadau am ganiatâd i adeiladu fferm gwynt, cylchlythyrau, ymgynghoriad cyhoeddus, cofnodion cyfarfodydd Clymblaid Hiraethog, holiadur, taflenni, posteri, torion o'r wasg, a chofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas ac Is-Bwyllgor yr Amgylchedd.
Deunydd yn ymwneud â chais Cymdeithas Edward Llwyd am grant oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru i'w galluogi i gyhoeddi rhifynnau o'r cylchgrawn chwe-misol Y Naturiaethwr ar y we.
Ffurflenni cais, gohebiaeth a deunydd perthnasol ynghylch cais Cymdeithas Edward Llwyd am grant oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru i'w galluogi i gyhoeddi rhifynnau o'r llyfryn chwe-misol Y Naturiaethwr ar y we.
Am Y Naturiaethwr gweler, er enghraifft: https://cymdeithasedwardllwyd.cymru/y-naturiaethwr/.
Gweler hefyd dan bennawd Ceisiadau grant cyffredinol.
Papurau’n ymwneud â gweithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys: ceisiadau am grantiau ymchwil y Gymdeithas, ac adroddiadau a phapurau eraill am brosiectau ymchwil i mewn i blanhigion, adar ac anifeiliaid; gohebiaeth gyda masnachwyr, ac yn arbennig gyda Gwasg Carreg Gwalch am gynhyrchu cyfrolau teithiau; fersiwn drafft o'r holiadur aelodau; rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau; llythrau gan swyddogion y Gymdeithas at y Pwyllgor Gwaith ac at aelodau; costau teithio swyddogion y Gymdeithas; taflenni; a thorion o'r wasg am faterion amgylcheddol. Ceir hefyd nifer sylweddol o bapurau'n ymwneud â’r cysylltiad rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cynnwys ceisiadau gan y Gymdeithas am grantiau’r Cyngor, copiau drafft o gynllun datblygu’r Gymdeithas, manylion ariannol am gyhoeddiadau’r Gymdeithas, ac anfonebau a gohebiaeth gysylltiedig, ynghyd â dogfennaeth y Cyngor ynghylch ei pholisi dwyieithrwydd, siarter ar gyfer dehongli amgylchedd a diwylliant Cymru, seminarau a drefnwyd gan neu gyda chymorth y Cyngor, a rhaglen waith ynghylch llwybrau cyhoeddus; yn ogystâl â hyn, y mae papurau’n ymdrin â sefydlu fforwm Cwlwm gan y Cyngor, yn cynnwys cyfansoddiad, agendau a chofnodion cyfarfodydd, nod ac amcanion, llythyrau, a ffurflen gais ymaelodi.
Agendau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, cofnodion cyfarfodydd blynyddol a chyfarfodydd arbennig, a phapurau eraill ym ymwneud â phob agwedd o weithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys cyfrifon, cyfansoddiad y Gymdeithas, cofnodion yr Is-Bwyllgorau, rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau, adroddiadau, canllawiau diogelwch, canllawiau teithiau cerdded, cynllun cydweithrediad trwy gymhorthdal rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, a chofnodion cyfarfod rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a mudiadau gwirfoddol Cymraeg eu hiaith, gyda gohebiaeth gysylltiedig rhwng y Gymdeithas a chymdeithasau, masnachwyr, cyrff cyhoeddus a mudiadau eraill, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig yn bennaf, ac hefyd swyddogion ac aelodau'r Gymdeithas.
Agendau a chofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith, ac hefyd cofnodion cyfarfodydd blynyddol, cynhadledd flynyddol a chyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas, ynghyd ag adroddiadau a llythyrau. Ymysg y rhain y mae canllawiau teithiau, polisi'r amgylchedd a pholisiau eraill, dogfennau'n nodi prif feysydd gwaith a thargedau'r Gymdeithas, syniadau am nwyddau'r Gymdeithas, cais gan y Gymdeithas am gymhorthdal oddi wrth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, taflen ddrafft yn holi am wybodaeth ynglŷn â bele'r coed, a llythyrau oddi wrth yr Ysgrifennydd at aelodau'r Pwyllgor Gwaith, aelodau'r Gymdeithas, Merched y Wawr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Amgueddfa Werin Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Cwmni Teledu Telesgôp a chyfranwyr at gyhoeddiadau'r Gymdeithas. Ffeil yw hon o ddogfennau a argraffwyd oddi wrth gyfrifiadur ac a drefnwyd wedyn gan y Gymdeithas.
Papurau ychwanegol Cymdeithas Edward Llwyd yn ymwneud â strwythur, gweinyddiaeth ac amcanion y Gymdeithas, gan gynnwys cofnodion pwyllgorau a chyfarfodydd eraill; manylion cynhadleddau a digwyddiadau eraill; gohebiaeth rhwng aelodau'r Gymdeithas a rhwng aelodau ac unigolion/sefydliadau allanol; cylchlythyrau a newyddlenni; manylion cyllid ac ariannu; copïau o Gyfansoddiad y Gymdeithas; deunydd sy'n olrhain llunio a chynnal Cynllun Datblygu'r Gymdeithas; a deunydd yn ymwneud ag amryw brosiectau o fewn y Gymdeithas megis prosiect Llên y Llysiau/Llên Natur, prosiect Safoni Enwau a Thermau a chylchgrawn Y Naturiaethwr.
Lliain sychu llestri a gynhyrchwyd gan Lyfrgell Bodley, Rhydychen, yn dwyn lluniau a thestun botanegol o'r Llyfrgell. 'Roedd y Gymdeithas yn gwerthu eitemau tebyg.
Deunydd yn ymwneud â phrosiect Llen y Llysiau / Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd, gan gynnwys manylion ceisiadau am grantiau, swydd-ddisgrifiad ar gyfer Swyddog Prosiect Llên y Llysiau, gohebiaeth ac adroddiadau. Ynghyd â rhifynnau o fwletinau Llên Natur, 2013-2014, 2016-2017, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd.
Am brosiect Llên Natur gweler, er enghraifft: https://www.llennatur.cymru/.
Gweler hefyd dan benawdau Gohebiaeth rhwng aelodau'r Pwyllgor Gwaith a Ceisiadau grant cyffredinol.
Deunydd yn ymwneud â phrosiect Llen y Llysiau / Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd.
Cofnodion cyfarfodydd Is-Bwyllgor yr Amgylchedd, ynghyd â gohebiaeth rhwng y Gymdeithas a chyrff cyhoeddus (Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn bennaf), mudiadau cyhoeddus, gwleidyddion a gweision sifil. Ymgyrchoedd i ddiogelu amgylchedd cefn gwlad Cymru yw prif bwnc yr ohebiaeth, gyda phwyslais ar effeithiau niweidiol chwareli, y diwydiant olew, ffermydd gwynt a phrosiectau ynni dŵr, yn arbennig mewn Parciau Cenedlaethol. Ceir hefyd gohebiaeth am brosiectau ymchwil a grantiau ymchwil, a phabell amgylcheddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â deunydd perthynol yn cynnwys papurau trafod, dogfennau ymgynghorol, taflenni, cylchlythyr y Gymdeithas, a thoriadau o'r wasg.
Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Marchnata, ynghyd â chyfrifon, gohebiaeth, adroddiad, taflenni a thorion o'r wasg yn ymwneud â deunydd hysbysrwydd, nwyddau i'w gwerthu, a gwaith y Pwyllgor yn gyffredinol.
Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Enwau a Thermau, ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a chyhoeddiadau perthynol, yn ymwneud ag enwau anifeiliaid, planhigion a lleoedd Cymru, ac yn arbennig y gwaith o baratoi cyhoeddiadau am y rhain.
Is-Bwyllgor Enwau a Thermau - 'Llên y Llysiau',
Cofnodion yr Is-Bwyllgor Enwau a Thermau yn ymwneud â phrosiect 'Llên y Llysiau', a drafododd lle planhigion ym mywyd a syniadau'r Cymry ar hyd yr oesoedd, gan gynnwys agendau a chofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth, papur trafod, canllawiau, tudalennau o'r cylchlythyr, taflenni, a deunydd am brosiect tebyg yn yr Alban ('Flora Celtica').
Cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau (a nabyddid hefyd fel yr Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau Cyfnodol, yr Is-Bwyllgor Cyfnodolion, a'r Is-Bwyllgor Cyhoeddiadau Monograffig), ynghyd â gohebiaeth, nodiadau a deunydd cyhoeddusrwydd perthynol, yn ymwneud yn arbennig â'r 'Naturiaethwr', y cylchlythyr a chyhoeddiadau eraill y Gymdeithas, aelodaeth, marchnata, grantiau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ac eisteddfodau.
Copïau o holiadur swyddogol y Gymdeithas.
Papurau yn ymwneud â gweinyddiaeth swyddi o fewn Cymdeithas Edward Llwyd.
Papurau yn ymwneud â gweinyddiaeth swyddi o fewn Cymdeithas Edward Llwyd, gan gynnwys swydd-ddisgrifiadau ar gyfer Swyddog Gweinyddol, a luniwyd mewn Cyfarfod Arbennig o'r Gymdeithas, 20 Ebrill 2006, ynghyd â chofnod o drafodion y cyfarfod a gohebiaeth berthnasol, a hysbyseb yn y wasg, 24 Awst 2007, ynghylch bwriad y Gymdeithas i benodi Swyddog cyflogedig. Hefyd swydd-ddisgrifiadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru (Countryside Council for Wales) (bellach Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales) ar gyfer Senior Conservation Office (Wales) ac Administration Assistant (ill dau yn Saesneg) a swydd-ddisgrifiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer Swyddog Bwrlwm Eryri (yng Nghymraeg a Saesneg).
Am swydd-ddisgrifiad ar gyfer Swyddog Prosiect Llên y Llysiau, gweler dan bennawd Llên y Llysiau / Llên Natur.