- 1/4.
- file
- 1994-1998.
Papurau’n ymwneud â gweithgareddau'r Pwyllgor Gwaith, yn cynnwys: ceisiadau am grantiau ymchwil y Gymdeithas, ac adroddiadau a phapurau eraill am brosiectau ymchwil i mewn i blanhigion, adar ac anifeiliaid; gohebiaeth gyda masnachwyr, ac yn arbennig gyda Gwasg Carreg Gwalch am gynhyrchu cyfrolau teithiau; fersiwn drafft o'r holiadur aelodau; rheolau sefydlog Is-Bwyllgorau; llythrau gan swyddogion y Gymdeithas at y Pwyllgor Gwaith ac at aelodau; costau teithio swyddogion y Gymdeithas; taflenni; a thorion o'r wasg am faterion amgylcheddol. Ceir hefyd nifer sylweddol o bapurau'n ymwneud â’r cysylltiad rhwng y Gymdeithas a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, yn cynnwys ceisiadau gan y Gymdeithas am grantiau’r Cyngor, copiau drafft o gynllun datblygu’r Gymdeithas, manylion ariannol am gyhoeddiadau’r Gymdeithas, ac anfonebau a gohebiaeth gysylltiedig, ynghyd â dogfennaeth y Cyngor ynghylch ei pholisi dwyieithrwydd, siarter ar gyfer dehongli amgylchedd a diwylliant Cymru, seminarau a drefnwyd gan neu gyda chymorth y Cyngor, a rhaglen waith ynghylch llwybrau cyhoeddus; yn ogystâl â hyn, y mae papurau’n ymdrin â sefydlu fforwm Cwlwm gan y Cyngor, yn cynnwys cyfansoddiad, agendau a chofnodion cyfarfodydd, nod ac amcanion, llythyrau, a ffurflen gais ymaelodi.