Dangos 5 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Heol Tre-Dŵr Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth Ysgrifennydd y Capel

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng ysgrifennydd y Capel ac eraill, 1939-1995, yn ymwneud yn bennaf â rhedeg y Capel o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud ag adnewyddu'r Capel ar gyfer ei ganmlwyddiant ym 1952, ac yn ymwneud â'r cyfarfod dathlu canmlwyddiant. Ceir hefyd eitemau yn ymwneud â datgorffori'r Capel rhwng 1993 a 1995, megis llythyrau, papurau ariannol a phapurau yn ymwneud â'r gwasanaeth datgorffori.

Hanes yr Eglwys

Mae'r ffeil yn cynnwys gweithiau gan yr ysgrifennydd, Jenkin M. Wilde, ar hanes yr Eglwys. Mae'n cynnwys darlith a draddodwyd ganddo yng nghyfarfod datgorffori'r Capel, erthygl ar gyfer y papur bro, a darn o waith estynedig dan y teitl 'Hanes yr Eglwys a Rhai Atgofion'. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llungopïau o ddwy ddogfen gyfreithiol, 1879 a 1945, yn ymwneud â phrydles a pherchnogaeth tir y safle.

Papurau ariannol y Capel

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau ariannol, biliau, anfonebau, derbynebau ac amcangyfrifon yn ymwneud â chynnal a chadw'r Capel. Mae'r rhain yn cynnwys amcangyfrifon a chyfrifon ar gyfer adnewyddu a dodrefnu'r Capel yn 1912-1913.