Showing 23 results

Archival description
Papurau Glasnant
Print preview View:

Ysgrifau - amrywiol

Ysgrifau amrywiol mewn llawysgrif, ac un wedi ei theipio, gan y Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951], gan gynnwys un ysgrif ar David Lloyd George, a oedd yn brif weinidog pryd yr ysgrifennwyd y darn.

Hunangofiant - nodiadau

Nodiadau y Parch. W. Glasnant Jones, [1911x1948], a ddefnyddiwyd yn ei hunangofiant, Cyn Cof Gennyf a Wedyn, a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd yn 1947-[1948].

Ysgrif - 'Gurnos'

Tri chopi llawysgrif o'r ysgrif 'Gurnos', [1903x1943]; un a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Treorci yn 1924, un a gyflwynwyd i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1943, ynghyd â fersiwn arall o'r ysgrif ar dudalennau rhydd, heb ddyddiad arno.

Nodiadau

Nodiadau amrywiol a darnau o erthyglau a darlithoedd y Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951].

Watcyn Wyn

Nodiadau gan y Parch. W. Glasnant Jones ar Watcyn Wyn, [wedi 1905]x[1944], ynghyd â llythyrau at ei fab, Dr Iorwerth Hughes Jones, yn holi am ymchwil ei dad ar Watcyn Wyn, 1954.

Papurau Glasnant

  • GB 0210 GLASNANT
  • Fonds
  • [1882x1971]

Pregethau, gweithiau creadigol, anerchiadau a gwaith ymchwil y Parch. W. Glasnant Jones, ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymddeoliad a'i farwolaeth, gan gynnwys llythyrau o gydymdeimlad, [1882x1971].

Glasnant, 1869-1951

Hunangofiant - copïau printiedig

Copïau printiedig o hunangofiant y Parch. W. Glasnant Jones, Cyn Cof Gennyf a Wedyn, a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd, 1947-[1948]. Mae'r tudalennau perthnasol o'r rhifynnau lle ymddangosodd yr atgofion wedi eu tynnu allan a'u rhoi mewn llyfryn gyda'i gilydd. Ceir nodiadau yng nghefn y llyfryn.

Torion papur newydd

Deunydd printiedig, [1900x1949], sydd yn bennaf yn dorion o erthyglau wedi'u hysgrifennu gan y Parch. W. Glasnant Jones. Mae un erthygl yn hysbysebu ei hunangofiant Cyn Cof Gennyf a Wedyn (1949).

Cerddi

Copïau llawysgrif o rai o gerddi'r Parch. W. Glasnant Jones, [1889x1951], ynghyd â chopïau o gerddi gan feirdd eraill. Mae'r dyddiad 1937 ar un o'r cerddi.

Christmas Evans

Araith gan y Parch. W. Glasnant Jones ar Christmas Evans, [1938], i'w thraddodi ar ddiwrnod canmlwyddiant marwolaeth Christmas Evans.

Teyrngedau i Glasnant

Papurau yn ymwneud yn bennaf ag ymddeoliad y Parch. W. Glasnant Jones, 1941, a'i farwolaeth yn 1951, gan gynnwys rhaglen gwasanaeth dadorchuddio maen coffa, 1965.

Teyrngedau

Papurau amrywiol yn ymwneud yn bennaf ag ymddeoliad Glasnant, [c. 1941], gan gynnwys llythyr ato ar ei ymddeoliad a cherdd deyrnged; ynghyd â rhai papurau yn ymwneud â'i farwolaeth, megis copi o'r Tyst yn cynnwys teyrnged iddo, taflen emynau ei angladd a llythyr cydnabyddiaeth o gydymdeimlad gan ei feibion, 1951; ynghyd â rhaglen gwasanaeth dadorchuddio maen coffa iddo, 1965.

Hunangofiant

Copi llawysgrif o atgofion y Parch. W. Glasnant Jones, [1947]-[1948], ar gyfer ei hunangofiant Cyn Cof Gennyf a Wedyn, a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd yn 1947-[1948].

Results 1 to 20 of 23