Showing 2 results

Archival description
Papurau F. Wynn Jones Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967
Print preview View:

Godre'r Berwyn

Llawysgrif wreiddiol Godre'r Berwyn (Caerdydd, 1953), atgofion bore oes o'i ieuenctid yn Llandrillo, gyda chywiriadau; llythyrau yn ymwneud â'r cyhoeddi a'r gwerthiant oddi wrth Hughes a'i Fab, 1952-1961, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts a Hugh Evans, Lerpwl, yn gwrthod cyhoeddi'r gyfrol; adolygiadau, 1953-1954, o'r llyfr, gan gynnwys sgript adolygiad Gwyn Erfyl (Jones), 1954, a ddarlledwyd gan y BBC. Ceir hefyd lythyrau'n canmol y gyfrol, 1952-1955, gan gynnwys rhai oddi wrth Arthur [ap Gwynn], J. Gwyn Griffiths, T. H. Parry-Williams, Cassie Davies (4), David Thomas, Thomas Jones, Dora Herbert Jones, R[obert] Richards (2), John Cecil-Williams, E. Tegla Davies (2) a D. R. Hughes (2).

Roberts, Kate, 1891-1985

T. Gwynn Jones: llyfryddiaeth

Llyfrau nodiadau ymchwil F. Wynn Jones, gan gynnwys fframwaith o'r llyfryddiaeth yn ei law. Ceir hefyd lythyrau, 1959-1960, yn ymwneud â'i ymchwil, gan gynnwys rhai oddi wrth Kate Roberts (4), Erfyl Fychan (2), D. J. Williams (2), E. Tegla Davies, T. J. Jenkin, David Jenkins a D. Tecwyn Lloyd (2).

Roberts, Kate, 1891-1985